Mohammed Mehmet, Prif Weithredwr (Llun: Cyngor Sir Ddinbych)
Mae Cyngor Sir Ddinbych wedi cyhoeddi y bydd y Prif Weithredwr  yn gadael ei swydd ar ddiwedd mis Ebrill.

Mae Mohammed Mehemet wedi gweithio i’r Cyngor ers 2007 ac yn Gyfarwyddwr Corfforaethol Dysgu Gydol Oes cyn cael ei benodi’n Brif Weithredwr.

Mae’n dweud ei bod yn awr yn “amser am newid” a’i fod wedi cael deng mlynedd “gwych” ers ymuno â’r Cyngor.

“Mae’n debyg nad yw’r amser fyth yn ddelfrydol ar gyfer penderfyniadau o’r fath, ond yr oeddwn am i’r Cyngor newydd i setlo ar ôl yr etholiadau lleol ac i’r Aelodau gytuno ar eu cynllun corfforaethol cyn eu bod yn gorfod poeni am hysbysebu am Brif Weithredwr,” meddai.