Mi fydd Llywodraeth Cymru yn datgelu cynlluniau heddiw am eu cyfraith newydd i osod isafswm pris ar werthu alcohol yng Nghymru.

Er nad yw’r manylion llawn wedi’u cyhoeddi eto, fe allai’r mesur olygu y bydd hi’n drosedd i werthu alcohol yn rhatach na’r isafswm pris o 50c am bob uned.

Daw hyn yn rhan o Fesur Iechyd y Cyhoedd gyda’r bwriad o leihau effeithiau goryfed lle mae 50,000 o dderbyniadau i’r ysbyty bob blwyddyn yn gysylltiedig ag alcohol ac yn costio £120m i’r gwasanaeth iechyd.

Yn 2015, roedd 463 o farwolaethau yn gysylltiedig ag alcohol.

 

‘Effaith andwyol’

“Roedd modd osgoi pob un o’r 463 o farwolaethau y gellir eu priodoli i alcohol yn 2015 a byddai pob un o’r marwolaethau hyn wedi cael effaith andwyol ar deulu a ffrindiau’r unigolion,” meddai Rebecca Evans, Gweinidog Iechyd y Cyhoedd.

“Mae niwed sy’n gysylltiedig ag alcohol hefyd yn cael effaith fawr ar wasanaethau cyhoeddus fel y gwasanaeth iechyd,” ychwanegodd.

Mae’r Llywodraeth yn rhagweld y byddai isafswm o 50c yr uned yn arbed mwy na £130m i’r gwasanaethau iechyd dros ugain mlynedd, yn lleihau absenoldeb o’r gweithle ac yn arwain at 53 yn llai o farwolaethau a 1,400 yn llai o dderbyniadau i’r ysbyty bob blwyddyn.

‘Osgoi’ marwolaethau

“Mae modd osgoi pob marwolaeth sydd wedi’i phriodoli i alcohol, gan ddangos bod angen cymryd camau atal pellach ar frys,” meddai Frank Atherton, Prif Swyddog Meddygol Cymru.

“Effaith fach bydd hyn yn ei chael ar yfwyr cymedrol. Yfwyr niweidiol a pheryglus fydd yn gweld yr effeithiau mwyaf sylweddol, oherwydd eu bod nhw’n fwy tebygol o yfed cynhyrchion alcohol rhatach a chryfach,” meddai wedyn.