Fe fydd llanc 17 oed yn mynd gerbron Llys y Goron Birmingham ddydd Llun, wedi’i gyhuddo o droseddau brawychol.

Mae’r llanc o Rondda Cynon Taf, nad oes modd ei enwi, wedi’i gyhuddo o baratoi gweithredoedd brawychol drwy gael gafael ar gyllell a morthwyl.

Mae hefyd wedi’i gyhuddo o annog pobol eraill – drwy Instagram – o annog pobol eraill i weithredu’n frawychol.