Mae dau o bobol mewn cyflwr difrifol yn yr ysbyty yn dilyn gwrthdrawiad yn Rhymni yn Sir Fynwy y bore ma.

Tarodd car Peugeot 206 oren yn erbyn car oedd wedi cael ei barcio ar Stryd Moriah am 3.30yb.

Mae’r gyrrwr ac un teithiwr yn derbyn triniaeth yn yr ysbyty ym Merthyr Tudful am anafiadau difrifol.

Dylai unrhyw un â gwybodaeth gysylltu â Heddlu Gwent ar 101.