Mae disgwyl oedi yr wythnos hon wrth i waith cynnal a chadw gael ei wneud ar gylchfan Croes Cwrlwys yng Nghaerdydd.
Bydd y gwaith yn dechrau am 8 o’r gloch heno, ac yn para tan 6 o’r gloch fore Iau.
Fe fydd lonydd a ffyrdd ynghau am gyfnodau ar adegau gwahanol.
Bydd cyfarwyddiadau i deithwyr ynghylch ffyrdd eraill sydd ar agor yn yr ardal.