Mae Heddlu’r Gogledd wedi gwrthod cadarnhau eu bod nhw wedi cael eu galw i ffrwgwd yn Bar Bach Caernarfon nos Wener.
Fe gadarnhaodd Bar Bach wrth golwg360 y bu ymladd nos Wener rhwng dwy garfan o aelodau Plaid Cymru.
Cadarnhaodd aelod o staff Bar Bach Caernarfon fod aelodau’r blaid wedi cael eu taflu allan ar ôl dechrau ffrwgwd.
Ond roedd adroddiadau cymysg ynghylch pwy oedd yn gyfrifol am ddechrau’r ffeit.
Roedd y dyn sy’n honni ei fod e wedi dioddef ymosodiad wedi dweud wrth golwg360 iddo fynd at yr heddlu i adrodd am y digwyddiad.
Ond dywedodd llefarydd ar ran yr heddlu wrth golwg360 nad ydyn nhw’n rhoi sylw na manylion digwyddiadau unigol.
Dywedodd yr unigolyn nad oedd e wedi cael ei anafu ond ei fod yn awyddus i gofnodi’r digwyddiad gan ei fod e wedi cael ei gyhuddo gan rai o ddechrau’r ffeit, gan ychwanegu fod hynny’n “anwir”.
Mae golwg360 wedi gofyn am ymateb gan Blaid Cymru.