Mae Heddlu Gwent yn parhau i apelio am wybodaeth yn dilyn diflaniad dyn 49 o ardal Pont-y-pŵl.
Dydy Jaymie James ddim wedi cael ei weld ers dydd Gwener, Hydref 13 ac fe gafodd yr heddlu wybod am ei ddiflaniad ddydd Sul diwethaf.
Mae e’n 6’2″, o gorffolaeth denau ac mae ganddo fe farf a gwallt brown. Mae’n aml yn gwisgo sandalau a throwsus byrion milwrol a siwmper.
Dywedodd yr heddlu eu bod nhw’n gofidio amdano.
Dylai unrhyw un â gwybodaeth gysylltu â Heddlu Gwent ar 101.