Mae gwledydd Prydain yn paratoi am effeithiau Storm Brian, sy’n debygol o ddod â gwyntoedd o hyd at 70 milltir yr awr mewn rhai ardaloedd.

Mae rhybudd y gallai effeithio ar gyflenwadau trydan ac y gallai llifogydd achosi oedi ar drafnidiaeth gyhoeddus.

Mae’r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybudd melyn yng Nghymru, a de a chanolbarth Lloegr ac fe fydd hwnnw mewn grym tan ganol nos heno.

Mae disgwyl gwyntoedd o hyd at 55 milltir yr awr yn y rhan fwyaf o ardaloedd drwy wledydd Prydain, a hyd at 70 milltir yr awr mewn ardaloedd arfordirol.

Mae 42 o rybuddion am lifogydd mewn grym, a chwech ohonyn nhw’n galw am weithredu ar unwaith.

Mae disgwyl y tywydd gwaethaf oll yn ne-orllewin Lloegr.

Cymru

Mae rhybudd y gallai’r gwyntoedd effeithio ar wasanaethau trenau yng Nghymru, gyda’r rhan fwyaf o reilffyrdd wedi’u heffeithio.

Mae rhybudd i yrwyr fod yn ofalus hefyd, wrth i’r AA ddweud bod amodau gyrru’n debygol o fod yn wael drwy gydol y dydd.

Gall unrhyw un sy’n gofidio am deithio ffonio 105 yn rhad ac am ddim am gyngor.

Mae nifer o ffyrdd yn Aberystwyth ac Aberaeron ynghau, a rhybudd melyn mewn grym, ac mae rhybudd am lifogydd posib ar hyd arfordir y gorllewin.

Mae saith rhybudd melyn mewn grym o safbwynt llifogydd yn y gorllewin, a Sir Benfro ymhlith yr ardaloedd sy’n debygol o gael eu taro waethaf.

Mae’r A487 ynghau rhwng Tyddewi a Hwlffordd.

Mae rhybudd i bobol osgoi rhannau arfordirol Cymru gymaint ag y bo modd, ac mae disgwyl gwyntoedd o hyd at 70 milltir yr awr tan heno.

Mae Pont Cleddau ynghau, ac mae trenau rhwng Llandudno a Blaenau Ffestiniog yn y gogledd wedi’u heffeithio wrth i weithwyr drwsio’r cledrau, ac mae bws yn cludo teithwyr ar hyn o bryd.

Fydd dim gwasanaeth fferi rhwng Abergwaun a Rosslare yn Iwerddon am 1.10 y prynhawn yma.