Mae Heddlu Dyfed Powys wedi agor cymhorthfa i bobol allu trafod â nhw yn Gymraeg.

Bydd cymhorthfa wythnosol i drafod materion troseddu a phlismona yn Gymraeg yng nghanolfan Yr Atom yng nghanol tref Caerfyrddin.

Mae’r heddlu yn bwriadu agor pum cymhorthfa wythnosol mewn amryw leoliadau yn y dref, gydag un ohonyn nhw yn y Gymraeg.

“Mae’n bosib y bydd rhai siaradwyr Cymraeg yn fwy cyfforddus i fynegi eu hunain wyneb yn wyneb â rhywun drwy gyfrwng eu hiaith gyntaf, felly rwy’n falch i gynnig yr opsiwn hwn iddynt,” meddai Swyddog Cefnogi Cymunedol yr Heddlu, Kieran Morris.

“Gall pobl ddod i siarad am unrhyw beth – os oes gyda chi amheuon ynghylch cyffuriau’n cael eu defnyddio yn eich ardal chi, neu eich bod chi wedi bod yn dyst i ymddygiad gwrthgymdeithasol, neu unrhyw beth arall.

“Mae’n fforwm agored gydag awyrgylch gartrefol, lle mae pobl yn gallu dod i drafod trosedd a phlismona yng Nghaerfyrddin drwy gyfrwng y Gymraeg.”

Bydd y gymhorthfa Gymraeg yn cael ei chynnal naill ai am 11 y bore neu 3 y prynhawn – mae gofyn i bobol checio gyda’r heddlu ar @NPTCarmsWest ar Twitter neu ffonio 101 i gadarnhau’r amser.