Leanne Wood (Llun Plaid Cymru)
Yn ei haraith yng nghynhadledd Plaid Cymru yn Galeri Caernarfon heddiw, mae’r arweinydd Leanne Wood wedi cyhoeddi y byddai’n creu cronfa o arian er mwyn adeiladu rheilffyrdd gwell i Gymru, pe bai mewn llywodraeth.

Byddai’r arian yn dod drwy fond newydd er mwyn trydaneiddio’r rheilffordd i Abertawe, trydaneiddio’r rheilffordd yn y gogledd a chreu rheilffordd rhwng Aberystwyth a Chaerfyrddin.

“Mae’r llwybr rhwng Caerfyrddin ac Aberystwyth yn allweddol i adfywio ein harfordir gorllewinol. Mae’n echelbin wrth greu rheilffordd Cymru gyfan sy’n rhedeg drwy ein gwlad,” meddai.

“Byddai chwyldro rheilffordd Plaid Cymru yn cysylltu’r gogledd hefyd, i Bwllheli a thu hwnt i fan hyn yng Nghaernarfon.”

2.7% o Gymraeg

Yn ei haraith 45 munud o hyd, mae golwg360 wedi cyfrif mai 2.7% o Gymraeg a gafwyd gan Leanne Wood.

Fe wnaeth hi ganmol Plaid Cymru fel gwrthblaid, gan ddweud bod y compact gyda Llafur wedi arwain at gyflwyno hanner o ymrwymiadau eu maniffesto.

Yn wyneb Brexit, dywedodd fod tactegau Llywodraeth Prydain yn bygwth hunaniaeth y Cymry a mynnodd fod croeso i ddinasyddion Ewrop aros yng Nghymru.

Fe wnaeth Leanne Wood hefyd gydnabod bod angen i Blaid Cymru “ennill ymddiriedaeth” pobol y wlad.

“I ddinasyddion Cymru, dw i eisiau dweud fy mod i’n derbyn bod angen i ni ennill eich ymddiriedaeth,” meddai.

“Rydych chi newydd bleidleisio yn yr etholiad mwyaf dramatig mewn degawdau.

“Ond dw i a Phlaid Cymru yn barod i’ch gwasanaethu, ac mae gennym ni’r syniadau a’r uchelgais i ddangos ffordd newydd i Gymru.”