Neil McEvoy
Mae newyddiadurwyr wedi cael eu hatal rhag mynychu cyfarfod ymylol Neil McEvoy ar gyrion cynhadledd Plaid Cymru yng Nghaernarfon.

Mae’r Aelod Cynulliad, sydd wedi’i wahardd o grŵp y Blaid yn y Cynulliad, yn cynnal cyfarfod i drafod ei weledigaeth ar gyfer y blaid yng Ngwesty’r Celt – tra bo’r gynhadledd swyddogol yn Galeri.

Mae’n debyg bod rhai aelodau oedd yn bwriadu mynychu cyfarfod Neil McEvoy, wedi codi pryderon dros gael y wasg yno.

Mae disgwyl i Neil McEvoy ddweud bod angen i Blaid Cymru bellhau o’r Blaid Lafur yn y Senedd er mwyn bod yn wrthblaid effeithiol.

Mae sïon ymhlith aelodau’r Blaid ei fod yn defnyddio’r cyfarfod i lansio ymgyrch i ddisodli Leanne Wood fel arweinydd – sïon y mae Neil McEvoy wedi gwadu.

Syniadau’r Blaid “ddim yn ddigon clir”

Wrth siarad â golwg360 yn y gynhadledd yng Nghaernarfon, dywed yr Aelod Cynulliad, Simon Thomas, ei fod yn sicr mai Leanne Wood sydd wrth y llyw – nid Neil McEvoy.

Dywedodd hefyd fod angen i Blaid Cymru wthio ei syniadau a’i gweledigaeth ei hun yn fwy – rhywbeth sydd ddim yn “ddigon clir” yn ôl Simon Thomas.

“Does dim dowt mai Leanne sy’n arwain y Blaid. Mae Neil yn aelod o’r blaid o hyd, wrth gwrs dyw e ddim bellach yn aelod o’r grŵp am y tro, ac mae yna broses i fynd drwyddo yn y cyd-destun yna,” meddai.

“Dw i’n croesawu syniadau, ond dw i eisiau gweld mwy gan unrhyw aelod, nid jyst Neil, mwy na jyst ‘dydyn ni ddim yn Llafur’, ‘dydyn ni ddim yn cydweithio efo Llafur’  neu ‘ry’n ni’n gweithio gyda Cheidwadwyr’, ar yr ochr arall.

“Beth yw’r rhaglen sydd gennym ni? Beth yw’r syniadau sydd gennym ni? Beth yw’r athroniaeth a’r weledigaeth sydd gennym ni?

“Dyna beth sydd ddim yn ddigon clir gan y Blaid ar hyn o bryd dw i’n teimlo.”