Leanne Wood Llun: Plaid Cymru
Wrth agor cynhadledd flynyddol ei phlaid yng Nghaernarfon, bydd Arweinydd Plaid Cymru yn galw heddiw am sefydlu cronfa gwerth £30 miliwn er mwyn amddiffyn economi a busnesau Cymru.

Gobaith Leanne Wood yw y gallai ‘Cronfa Parodrwydd Brexit’ gynnig cymorth ariannol i gwmnïau bach a chanolig, â’u cynorthwyo wrth ddelio ag effeithiau Brexit.

Yn y gynhadledd bydd yr arweinydd yn dweud y gallai “cenedligrwydd Cymreig gael ei fygwth” os na fydd dêl yn cael ei tharo dros ymadawiad Prydain o’r Undeb Ewropeaidd.

Bydd hi hefyd yn datgan bod Plaid Cymru yn bwriadu ymdrin â Brexit trwy gynnig cynlluniau i Lywodraeth Cymru a thrwy graffu’n ofalus ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig.

Y ddêl orau i Gymru

“Mae Plaid Cymru eisiau i Gymru fod yn barod am unrhyw senario gall Brexit ei gynnig – byddai Llywodraeth dan ein harweinyddiaeth ni yn medru cynnig hyn yn 2021,” meddai Leanne Wood.

“Yn y cyfamser, mae yna ystod o fesurau y dylai Llywodraeth Lafur Cymru gyflwyno er mwyn lleddfu unrhyw ‘sioc Brexit’ i’r economi.”

“Mae ‘dim cytundeb’ gan y Torïaid a ‘dim cynllun’ gan Lafur yn peri bygythiad real i genedligrwydd Cymreig. Ond, mae Plaid Cymru yn barod i wynebu hyn er mwyn gwireddu’r ddêl orau posib i Gymru.”