Neil McEvoy AC
Mae Neil McEvoy yn gwadu’n llwyr bod ganddo unrhyw fwriad i herio Leanne Wood am arweinyddiaeth Plaid Cymru – er bod sïon i’r gwrthwyneb yn dew yn y dref lle mae cynhadledd flynyddol y blaid yn cael ei chynnal fory a thrennydd.

Mae mwy nag un aelod blaenllaw o Blaid Cymru wedi dweud wrth golwg360 bod yr Aelod Cynulliad sydd ar hyn o bryd wedi’i wahardd o grwp y blaid yn y Cynulliad, yn cynnal cyfarfod fory i “lawnsio ei ymgyrch” yn erbyn Leanne Wood.

Ac mae golwg360 wedi cael cadarnhad gan Westy’r Celt yn nhref Caernarfon bod ystafell wedi’i llogi yn enw Neil McEvoy fory, ar gyfer cyfarfod dan y teitl ‘20:20 Vision – A Clear Vision for Plaid’. Ar yr un pryd, fe fydd cynadleddwyr yn cyfarfod yng nghanolfan gelfyddydol Galeri, 500 llath i ffwrdd.

Ond mae Neil McEvoy ei hun yn chwerthin am ben y straeon sy’n awgrymu ei fod â’i fryd ar fod yn arweinydd nesaf Plaid Cymru. Er ei fod wedi’i wahardd o grŵp Cynulliad Plaid Cymru am achosi “aflonyddwch” mae’n parhau i fod yn aelod o’r blaid.

“Nonsens llwyr”

“Mae’r si yn nonsens llwyr, gant y cant,” meddai Neil MvEvoy wrth golwg360. “Mae hynna’n chwerthinllyd, yn ddoniol a dweud y gwir. Dw i ddim jest yn gwadu’r peth, dw i’n chwerthin.

“Dw i ond eisiau gwneud yn siŵr bod y wleidyddiaeth yn iawn,” meddai wedyn. “Dyna nod y drafodaeth yn y gynhadledd.”

Mae golwg360 wedi ceisio cysylltu â Leanne Wood hefyd am ymateb.