Eifion Evans (Llun: Cyngor Sir Ceredigion)
Mae economi leol ardaloedd gwledig wedi “dioddef ers sawl blwyddyn,” yn ôl Prif Weithredwr newydd Cyngor Sir Ceredigion.

Mae’r gŵr sydd wedi’i benodi i’r rôl yn ddiweddar yn dweud mai mynd i’r afael â’r economi yw prif flaenoriaeth yr awdurdod dros y blynyddoedd nesaf.

“Un o’r pethau sy’n fy ngofidio i’n fawr yw cyflwr yr economi yn lleol,” meddai Eifion Evans wrth golwg360.

“Dw i’n credu bod y Gymru wledig wedi dioddef ers sawl blwyddyn – ac mae yna ddiffyg buddsoddiad wedi bod yng nghefn gwlad Cymru, yn y bobol ifanc sydd gyda ni, ac yn y cyfleoedd ar gyfer swyddi da yn ein hardal ni,” meddai wedyn.

Denu buddsoddiad

Yr wythnos ddiwethaf, fe ddaeth hi i’r amlwg y byddai cynghorau lleol Cymru’n derbyn toriad o 0.5% yn y cyllid y maen nhw’n ei dderbyn gan Lywodraeth Cymru.

“Wrth ystyried graddfa chwyddiant a chynnydd mewn cyflogau staff, mae’r ffigwr real yn dipyn mwy na beth mae’n ymddangos yn y lle cyntaf,” meddai Eifion Evans.

Cyn cael ei benodi’n Brif Weithredwr, Eifion Evans oedd Dirprwy Brif Weithredwr y cyngor ac mae’n esbonio mai dyma’r “wythfed flynedd yn olynol y mae’r Cyngor Sir wedi gweld gostyngiad yn yr arian craidd i redeg eu gwasanaethau.”

Ac mae’n dweud y gallai ansicrwydd Brexit gyfrannu at fwy fyth o doriadau.

“Mae’n ofid inni, a hoffwn weld cyfleoedd newydd yn cael eu creu ar draws y sir,” meddai gan ddweud ei fod am weld “mwy o gydweithio” gyda’r sector breifat “i ddenu buddsoddiad o du allan i’r sir i’r diwydiannau sydd gennym ni yma’n barod.”