Bu 75% o boblogaeth y morloi ifainc ar Ynys Dewi, Sir Benfro, farw o ganlyniad i Storm Ophelia, yn ôl y RSPB.

Wrth i’r elusen wenud archwiliad o’r ynys wedi’r storm ddechrau’r wythnos, fe ddaethom nhw ar draws degau ar ddegau o gyrff morloi ifainc wedi marw – gyda’r rhif yn cyfrif am 75% o’r morloi a aned ar yr ynys yn ystod yr wythnos ddiwethaf.

Yn ôl ffigyrau, roedd 120 o forloi newydd anedig ar yr ynys ar Hydref 14, ond drannoeth y storm, roedd y rhif hwnnw wedi gostwng i 31.

Yn ôl y RSPB, mae’n amlwg bod nifer o’r mamau wedi gadael eu plant ar y traeth o ganlyniad i’r tywydd garw ddydd Llun, gyda’r arfordir ymhlith y prif fannau yng Nghymru i gael eu heffeithio gan wyntoedd cryfion.

Ynys Dewi, sydd wedi’i lleoli tua 1km o’r tir mawr ger Tyddewi, yw un o’r safleoedd bridio morloi mwyaf yn ne-orllewin ynysoedd Prydain, gyda rhwng 500 a 700 o forloi yn cael eu geni’n flynyddol yno rhwng misoedd Awst a Thachwedd.