Mae Aelod Seneddol Islwyn wedi galw ar lywodraeth y Deyrnas Unedig i uwch raddio’r gyfraith er mwyn rheoli gwerthiant cŵn bach.

Mewn dadl ddiwedd dydd yn Nhŷ’r Cyffredin ddydd Mawrth (Hydref 17) dywedodd Chris Evans bod angen mynd i’r afael â heriau’r “Gorllewin Gwyllt” o werthu cŵn ar-lein.

“Dw i’n galw ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig i gyflwyno ymgyrch wybodaeth, fydd yn gwneud hi’n orfodol bod pob prynwr yn gweld ci bach gyda’i fam, a’i brodyr a chwiorydd cyn ei brynu,” meddai.

“Dw i’n erfyn ar y Llywodraeth i adolygu’r ddeddfwriaeth bresennol o ran gwerthu cŵn bach yn y Deyrnas Unedig. Rhaid uwchraddio Deddf Anifeiliaid Anwes 1951 ar gyfer gwerthiant cŵn bach ar-lein.”

Cydweithio ag elusennau

Mae’r Aelod Seneddol Llafur yn dadlau bod swyddogion trwyddedu sydd yn asesu’r ffermydd bridio cŵn, yn aml heb eu hyfforddi yn iawn ac “methu cynnal asesiadau iawn”.

Un ateb i’r broblem, yn ôl Chris Evans, yw bod awdurdodau lleol yn cydweithio gydag elusennau sy’n gofalu am anifeiliaid er mwyn elwa o’u “harbenigedd”.

“Tra bod angen mynd ati ar frys i ariannu awdurdodau lleol yn well, gall arbenigedd y trydydd sector fod o werth,” meddai. “Dyna pam dw i’n cynnig bod elusennau yn cydweithio ag awdurdodau lleol.

“Rydyn ni methu dibynnu ar y trydydd sector i fynd i’r afael â phob un o’n problemau, ond mae’n bwysig ein bod yn meithrin perthynas rhwng awdurdodau lleol ac elusennau sy’n arbenigwyr yn y maes.”

Trwyddedau a smyglo

Yn ôl Battersea Dogs & Cats Home mae 88% o gŵn bach sydd wedi eu geni ym Mhrydain wedi cael eu bridio gan fridwyr didrwydded.

Mae’n debyg bod nifer o gŵn bach yn cael eu smyglo ar draws Ewrop yn anghyfreithlon ac yn aml maen nhw’n cael eu gwahanu o’u mamau ac yn cael eu gwerthu dan oed a heb eu chwistrellu.