Mae’r awdurdod newydd sy’n gyfrifol am reoli’r trethi sy’n cael eu datganoli i Gymru yn cwrdd am y tro cyntaf yn Nhrefforest heddiw (ddydd Mercher).

Fe fydd Awdurdod Cyllid Cymru yn gyfrifol am gasglu a rheoli’r dreth trafodion tir a’r dreth gwarediadau tirlewni, sy’n disodli’r dreth stamp.

Mae disgwyl i’r trethi ddod i rym ym mis Ebrill 2018, a dyma fydd y tro cyntaf mewn 800 mlynedd i Gymru gasglu ei threthi ei hun.

Trefniadau ar waith

Yn ystod eu cyfarfod, mae disgwyl i’r Awdurdod ddechrau rhoi trefniadau llywodraethu a chyfreithiol ar waith.

Er hyn, dros y misoedd nesaf maen nhw’n galw ar gwsmeriaid i barhau i gyfeirio ymholiadau at Gyllid a Thollau EM, gyda phobol yn gallu cofrestru gyda’r awdurdod newydd ar ddechrau 2018.

“Bydd trethdalwyr am gael canllawiau wrth i’r trethi newydd gael eu cyflwyno yng Nghymru a sicrwydd y bydd y broses o’u casglu yn effeithlon ac yn ddiogel,” meddai Kathryn Bishop, Cadeirydd yr awdurdod.

“Mae’r sefydliad eisoes yn gweithio’n galed ar hyn, gan ddod ag arbenigedd o fannau eraill yng Nghymru ac yn y Deyrnas Unedig,” meddai wedyn.

Aelodau

Mae aelodau eraill y bwrdd yn cynnwys Jocelyn Davies, Dyfed Edwards, David Jones, Lakshmi Narain a Martin Warren.