Heddlu De Cymru (Llun Golwg360)
Mae Heddlu De Cymru yn ymchwilio i wrthdrawiad yng Nghaerdydd lle mae beiciwr modur wedi marw.

Fe gafodd y gwasanaethau brys eu galw i Heol Caerffili yn y brifddinas ychydig cyn hanner dydd heddiw (Hydref 17) yn dilyn gwrthdrawiad rhwng bws â beic modur ger archfarchnad Lidl.

Maen nhw wedi cadarnhau bod y beiciwr modur wedi marw, ac mae dyn 58 oed wedi’i arestio.

Mae’r heddlu’n galw ar unrhyw un sydd â gwybodaeth i gysylltu ar 101 neu Daclo’r Taclau ar 0800 555 111 gan ddyfynnu’r cyfeirnod *404069.