Llun: Heddlu Gwent
Mae diffygion o ran gwasanaethau cymdeithasol  Cyngor Sir Powys yn rhoi plant y sir “mewn perygl o niwed”, yn ôl adroddiad corff rheoleiddio.

Mewn adroddiad sydd wedi ei gyhoeddi heddiw (Hydref 17) mae corff Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru (AGGCC) wedi “codi pryderon difrifol” am y gwasanaeth.

Mae’r adroddiad yn tynnu sylw at “ddiffyg cynllunio ar gyfer” asesiadau, ynghyd â “dull anghyson” ar gyfer cydymffurfio â chanllawiau i ddiogelu plant rhag ecsbloetio rhywiol.

Yn ôl yr AGGCC mae gan wasanaethau rheng flaen y cyngor “broblemau perfformio difrifol”, sydd yn deillio o “rheolaeth ansefydlog, arweiniad gwael a dryslyd, a llywodraethu gwan.”

Mae’r corff rheoleiddio eisoes wedi cynnal trafodaethau â Chyngor Powys, ac mae disgwyl i’r awdurdod lleol greu cynllun gwella o fewn mis.

“Pryderon sylweddol”

“Er ein bod wedi cydnabod y cyfraniad sylweddol y mae staff wedi’i wneud o dan amgylchiadau anodd tu hwnt, mae gennym bryderon difrifol ynghylch y trefniadau o ran arweinyddiaeth a rheolaeth,” meddai Prif Arolygydd yr AGGCC, Gillian Baranski.

“Rydym wedi gwneud hyn yn glir i Gyngor Sir Powys, ac yn disgwyl gweld gwelliannau cyflym er mwyn sicrhau bod plant yn cael eu diogelu a bod teuluoedd ym Mhowys yn derbyn y lefel o wasanaethau y maen nhw’n ei haeddu. Rydym yn monitro hyn yn agos.”

Blaenoriaethau

“Mae’n amlwg bod Cyngor Sir Powys yn tynnu eu sylw oddi ar yr hyn sydd yn bwysig,” meddai Arweinydd Grŵp Llafur y Cyngor, Matthew Dorrance.

“Mae’n rhaid iddyn nhw ymddiheuro i gywiro hyn. Mae angen rhoi cynllun at ei gilydd i wella’r gwasanaeth yma sydd yn methu – dylai bod hyn yn flaenoriaeth i’r cyngor Torïaidd-Annibynnol.”

Cywiro’r sefyllfa

“Diogelwch y plant ym Mhowys ddylai’r flaenoriaeth fod, a dim ond tîm o du hwnt i awdurdod all fynd i’r afael â’r diffyg arweinyddiaeth ar frig y cyngor er mwyn cael y gwelliannau sydd eu hangen,” meddai Aelod Cynulliad Plaid Cymru y Canolbarth a’r Gorllewin, Simon Thomas.

“Mi fydd Cynghorwyr ac Aelodau Cynulliad Plaid Cymru yn craffu ar weithredoedd Cabinet Cyngor Powys a Llywodraeth Cymru i gywiro’r sefyllfa hon.”

Mae golwg360 wedi gofyn i Gyngor Powys am ymateb.