Neil McEvoy (Llun: Plaid Cymru)
Mae’r Aelod Cynulliad, Neil McEvoy, wedi cadarnhau y bydd yn apelio yn erbyn ei waharddiad o Blaid Cymru.

Cadarnhaodd Arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood, ei waharddiad ym mis Medi gan nodi ei fod wedi “torri rheolau … ymddygiad disgwyliedig ACau a chynrychiolwyr y Blaid.”

Mae’r blaid yn dweud bod Neil McEvoy wedi eu hysbysu am ei fwriad i apelio yn erbyn y gwaharddiad. Does ganddyn nhw ddim sylw pellach.

“Gwnaeth 42,185 o bobol bleidleisio amdanaf fel ymgeisydd rhanbarthol Plaid ac mi wnaeth 10,205 bleidleisio i mi fod yn Aelod Cynulliad Plaid yng ngorllewin Cymru,” meddai Neil McEvoy wrth golwg360. “Dyna sydd bwysicaf, ac felly mi fydda’i yn apelio i’r bwrdd gweithredol.”

Cynhadledd i’r wasg

Mae’r Aelod Cynulliad – sydd am y tro yn annibynnol – eisoes wedi cynnal cynhadledd newyddion heddiw lle bu’n trafod mater ei waharddiad.

Dywedodd bod “angen plaid arnom lle mae pobol yn medru arddel safbwyntiau gwahanol” ac ymhelaethodd ar y pwynt wrth siarad â golwg360.

“Be dw i’n hoffi am Blaid Cymru yw natur agored y blaid, a’r ffaith ein bod ni ddim i gyd yn cael cyfarwyddiadau ynglŷn â sut i feddwl,” meddai.

“Mae hawl gyda ni i feddu ar safbwyntiau gwahanol ac rydym yn cael trafod materion. Mae hynna yn rhoi amgylchedd creadigol i ni i wella polisïau ac i gael yr atebion iawn. Dw i ddim yn credu dylwn ni fod yn cefnu ar hynna fel Plaid.”