Map etholaethau Seneddol Cymru (Llun: golwg360, ond y mapiau'n wreiddiol gan y Comisiwn Etholiadol)
Mae arbenigwr ar wleidyddiaeth Cymru yn amau a fydd map newydd ffiniau etholaethol Cymru yn gweld golau dydd.
Mae’r Comisiwn Ffiniau i Gymru wedi cyhoeddi map newydd heddiw sy’n ymateb i’r cynllun i dorri’r nifer o Aelodau Seneddol yng Nghymru o 40 i 29.
Ond mae’r Athro Roger Scully, o Ganolfan Llywodraethiant Cymru, yn “ansicr” a fydd y map yn cael ei weithredu erbyn yr Etholiad Cyffredinol nesaf yn 2022.
“Mae’n bosib y byddwn ni’n cael Etholiad Cyffredinol cyn hynny wrth gwrs, ac rydyn ni’n disgwyl y bydd gwrthwynebiad iddo yn Nhŷ’r Cyffredin,” meddai wrth golwg360.
“Mi fydd hi’n anodd i Lywodraeth heb fwyafrif wthio’r newid hwn drwy Tŷ’r Cyffredin, felly dydw i ddim yn meddwl y bydd hi’n debygol y byddwn ni’n gweld y map yma.”
Llafur – ‘colli mwyaf’
Er hyn, pe bai’r map yn dod i rym mae Roger Scully yn awgrymu mai’r blaid Lafur fyddai’n colli’r nifer mwyaf o seddi.
“Mi enillodd Llafur bron dri chwarter o seddi Cymru ym mis Mehefin eleni, felly nhw fyddai’n colli mwyaf,” meddai gan gyfeirio at uno etholaethau gan gynnwys Cwm Cynon a Phontypridd.
Ac mae’n sôn y bydd ymestyn etholaeth Ceredigion i gynnwys gogledd Penfro yn dalcen caled i Blaid Cymru.
“Roedd y blaid yn agos iawn at orffen yr etholiadau eleni gyda dim ond dau aelod seneddol, ond mi allai’r map ei gwneud hi’n llawer anoddach iddyn nhw.”
“Yn y gogledd mae sedd Gwynedd yn edrych yn eithaf saff [i Blaid Cymru], ond mi allai fod yn anodd iddyn nhw ennill Ynys Môn a Bangor drwy’r map newydd.”
Gostwng nifer ASau
Mae Roger Scully yn ychwanegu y gallai’r map wanhau llais Cymru yn San Steffan ond mae’n dweud y gallai “pobol edrych yn fwy at y Cynulliad wedi hynny.”
Mae’r map yn rhan o gynllun i ostwng nifer yr etholaethau drwy wledydd Prydain o 650 i 600 gan olygu y bydd rhwng 71,031 ac 78,507 o etholwyr ym mhob etholaeth.
Mae’r newidiadau’n dilyn ymgynghoriad y llynedd, ac maen nhw’n galw am ymateb yn rhan o ymgynghoriad cyhoeddus erbyn Rhagfyr 11.