Tonnau mawr ar y prom yn Aberystwyth (Llun: Golwg360)
Mae disgwyl rhagor o drafferthion i deithwyr y bore ma wrth i’r gwasanaethau brys asesu’r difrod yn sgil Storm Ophelia dros nos.

Yng ngogledd Cymru mae nifer o ffyrdd yn parhau ynghau y bore ma a miloedd o gartrefi heb gyflenwad trydan. Er bod y gwyntoedd wedi gostegu erbyn hyn, mae rhybudd melyn yn parhau mewn grym yn y gogledd.

Mae nifer o ysgolion hefyd ynghau eto heddiw gan gynnwys Ysgol Eifionnydd ym Mhorthmadog, ac Ysgol Henblas ac Ysgol y Ffridd, Gwalchmai, yn Ynys Môn gan nad oes trydan yn yr ardal.

Yn Ynys Môn, mae’r A5 yng Ngwalchmai, bellach wedi ail-agor ar ôl i’r to gael ei chwythu oddi ar Garej Horseshoe.

Yn Nant Peris, mae’r A4086 ynghau wedi i goeden a cheblau pŵer ddisgyn ar y ffordd, ac mae’r A494 yn Nolgellau, a’r A487 yn Niwgwl, Sir Benfro, hefyd ynghau.

Mae’r cyfyngiadau ar Bont Britannia bellach wedi dod i ben ond mae tagfeydd yn bosib.

Does dim trenau rhwng Pwllheli a Phorthmadog ar ôl i goeden ddisgyn ar y lein ac mae teithiau fferi Irish Ferries a Stena Line rhwng Cymru ac Iwerddon wedi’u canslo.

Dynes wedi’i hanafu

Yn Wrecsam cafodd dynes ei hanafu ar ôl cael ei tharo gan gangen coeden ar Ffordd Caer bnawn dydd Llun. Cafodd ei chludo i Ysbyty Maelor Wrecsam gydag anafiadau sydd ddim yn peryglu ei bywyd.

Roedd hyd at 7,000 o gartrefi heb gyflenwad trydan yng nghanolbarth a de-orllewin Cymru ac yn ôl Western Power Distribution mae’r trydan bellach wedi’i adfer i’r cartrefi hynny.

Yn y gogledd dywed Scottish Power bod hyd at 5,000 o gartrefi heb gyflenwad trydan dros nos a’u bod yn gweithio i geisio ei adfer y bore ma.

Iwerddon

Yn Iwerddon, bu farw tri o bobl ddydd Llun mewn gwyntoedd cryfion o hyd at 100mya a bu cannoedd ar filoedd o adeiladau heb drydan. Fe fydd ysgolion yn parhau ynghau yno am yr ail ddiwrnod heddiw wrth i’r awdurdodau asesu’r difrod.

Mae’r Alban yn paratoi ar gyfer gwyntoedd o hyd at 70mya ac mae rhybudd am lifogydd hefyd mewn lle wrth i Storm Ophelia barhau i daro ynysoedd Prydain.