Lesley Griffiths AC (Llun o'i gwefan)
Fe fydd ymgynghoriad yn agor heddiw (Hydref 16) ar wahardd cynhyrchu a gwerthu deunydd cosmetig a gofal personol sy’n cynnwys darnau bach o blastig.

Bydd yr ymgynghoriad yn para am ddeuddeg wythnos, a bwriad Llywodraeth Cymru yn y pen draw yw cyflwyno gwaharddiad trwy is-ddeddfwriaeth Cymru ar Fehefin 30 y flwyddyn nesaf.

Daw yn sgil ymgynghoriad blaenorol a gafodd ei gynnal ledled y Deyrnas Unedig, lle wnaeth aelodau’r cyhoedd gyfleu cefnogaeth at waharddiad o’r darnau – neu microbelenni – plastig.

Llygredd plastig

Mae biliynau o microbelenni plastig yn mynd i mewn i gyflenwad dŵr y byd yn ddyddiol ac yn aml maen nhw’n cael eu llyncu gan greaduriaid mewn afonydd a moroedd.

Pwrpas y gwaharddiad fyddai mynd i’r afael â llygredd plastig ac i gyfrannu at y gwaith o amddiffyn yr amgylchedd morol.

 “Camau cadarnhaol”

“Rwy’n falch ein bod ninnau, ynghyd â gweddill y Deyrnas Unedig, yn cymryd camau cadarnhaol i leihau’r deunydd plastig sy’n mynd i’n moroedd,” meddai’r Ysgrifennydd Amgylchedd a Materion Gwledig, Lesley Griffiths.

“Diben yr ymgynghoriad hwn yw sicrhau nad yw deddfwriaeth yn rhoi busnesau Cymru dan anfantais mewn unrhyw ffordd. Bydd hefyd yn codi ymwybyddiaeth ynghylch y mater.”