Ddiwrnodau’n unig ar ôl iddo alw ar Brif Weinidog Prydain, Theresa May i bwyllo cyn ad-drefnu ei Chabinet, mae cyn-Ysgrifennydd Cymru ac Aelod Seneddol Preseli Sir Benfro, Stephen Crabb dan bwysau i ymddiswyddo.

Ymgasglodd protestwyr yn Hwlffordd brynhawn ddoe ar gyfer rali lle’r oedd y newyddiadurwr Owen Jones ymhlith y siaradwyr.

Fe dreuliodd e beth amser yn ystod y prynhawn yn curo ar ddrysau gyda’r protestwyr.

Yn ystod y rali, roedd e’n feirniadol o record Stephen Crabb o ran ei driniaeth o bobol mewn gwaith, teuluoedd sy’n ei chael hi’n anodd cael deupen llinyn ynghyd, a phobol ag anableddau, yn ogystal â’i wrthwynebiad i hawliau pobol hoyw.

Dywedodd y byddai Llywodraeth Lafur yn San Steffan yn cyflwyno cyflog byw, yn adeiladu tai fforddadwy, yn cael gwared ar dlodi ac yn sicrhau bod dŵr, ynni a’r rheilffordd o dan berchnogaeth y cyhoedd unwaith eto.

Hefyd yn siarad yn y rali roedd arweinydd y Blaid Werdd yng Nghymru Grenville Ham, yr Aelod Cynulliad Llafur Eluned Morgan, sylfaenydd Cynulliad Pobol Sir Benfro Jim Scott, a Paul Rutherford, un fu’n brwydro yn erbyn y dreth lloftydd.

Paul a Sue Rutherford

Fis Ionawr y llynedd, enillodd Paul a Sue Rurtherford o Sir Benfro her gyfreithiol yn erbyn anghyfiawnder y dreth lloftydd.

Roedd y cwpl o Glunderwen, sy’n gofalu am eu hŵyr, sydd ag anabledd difrifol, wedi dadlau drwy gydol yr achos llys fod y dreth yn cael effaith negyddol sylweddol ar blant anabl iawn sydd angen gofal drwy gydol y nos.

Barnodd y llys o blaid dynes sengl hefyd, a oedd wedi dioddef trais domestig ac sy’n byw mewn tŷ cyngor tair ystafell sy’n cynnwys ystafell ddiogel i’w gwarchod hi rhag ei chynbartner oedd yn ymosod arni.