Mae’r terfyn amser ar gyfer ymgynghoriad ar S4C wedi cael ei ymestyn yn dilyn pwysau gan Aelod Seneddol Plaid Cymru yng Ngheredigion, Ben Lake.

Ysgrifennodd llefarydd diwylliant y blaid at Adran Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon San Steffan yn gofyn am ragor o amser i randdeiliaid ymateb.

Cafodd yr adolygiad ei gyhoeddi o Faes yr Eisteddfod Genedlaethol ym Modedern ar Awst 7, a’r dyddiad cau gwreiddiol ar gyfer tystiolaeth oedd Hydref 13, gyda’r bwriad o adrodd yn ôl erbyn Tachwedd 7.

Diwedd mis Hydref yw’r dyddiad cau newydd, yn ôl yr Ysgrifennydd Gwladol dros Ddigidol yn San Steffan, Karen Bradley. 

Wrth ymateb, dywedodd Ben Lake: “Rwy’n falch fod Llywodraeth Prydain wedi cytuno i ymestyn y terfyn amser a chaniatáu mwy o amser i’r sector a rhanddeiliaid i gyflwyno tystiolaeth.

“Cyhoeddwyd y bwriad i gynnal adolygiad yn 2016 ond oherwydd nifer o ffactorau, gan gynnwys etholiad bryd y Deyrnas Gyfunol, oedwyd ei gychwyn tan fis Awst. Byddai caniatáu i ffactorau a osodwyd gan yr awdurdodau eu hunain gael effaith ar randdeiliaid a’u gorfodi i gyflwyno tystiolaeth ar frys er mwyn gwneud iawn am yr amser a gollwyd wedi bod yn annheg ac anghynhyrchiol.”

Cynnwys sy’n apelio

Ychwanegodd ei bod yn “hanfodol sicrhau bod S4C yn cwrdd ag anghenion cyhoedd Cymru ac yn cynhyrchu cynnwys o safon uchel sy’n apelio at gymaint o bobl ag sydd modd, ac y mae’n bwysig y gall y sawl â diddordeb a rhanddeiliaid ddarparu tystiolaeth gadarn i’r adolygiad”.

Cadarnhaodd y byddai Plaid Cymru’n cyflwyno tystiolaeth cyn diwedd y mis hefyd.