Profiad “reit ddirdynnol” oedd cael perfformio araith Sieiloc yn fyw ar S4C, meddai Cedron Siôn, enillydd Ysgoloriaeth Urdd Gobaith Cymru Bryn Terfel wrth
golwg360.

Dywedodd ei bod yn “anodd canfod y geiriau teilwng” i gyfleu ei deimladau ar ôl y fuddugoliaeth yn Theatr Sony yng Ngholeg Pen-y-bont, ond ei bod yn “fraint go iawn a theimlad o angerdd ac o falchder mawr”.

Roedd yr araith yn rhan o berfformiad y cystadleuydd buddugol o Borthmadog, cyn-ddisgybl yn Ysgol Eifion Wyn ac Ysgol Eifionnydd, sydd eisoes yn wyneb cyfarwydd ar y sianel, ac yntau’n chwarae rhan y cymeriad Dewi yn y gyfres Rownd a Rownd.

Roedd y noson yn benllanw ar weithgareddau Eisteddfod yr Urdd eleni ac fe gafodd yr Ysgoloriaeth gwerth £4,000, a noddir gan Brifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, ei chyflwyno i Cedron o flaen cynulleidfa’r Theatr ac yn fyw ar S4C.

Daeth Cedron, sydd bellach yn astudio yn y Royal Central School of Speech and Drama yn Llundain, i’r brig wedi i’w berfformiad greu argraff ar y beirniaid – Catherine Ayres, Eirlys Britten, Delyth Medi Lloyd, Sian Meinir a Rakhi Sing.

Roedd ei raglen yn cynnwys detholiad o araith Sieiloc o ddrama Marsiandwr Fenis’; detholiad o araith Sundance o ddrama ‘Sundance’; detholiad o araith Peilat o ddrama ‘Iesu!’; a ‘Tasa Ti’n Gweld Hi Drwy’n Llygad’allan o’r sioe ‘Cabaret’.

“Reit ddirdynnol”

Mae araith Sieiloc allan o Marsiandwr Fenis yn trafod hynt a helynt Iddew dan ormes yn y bymthegfed ganrif, ac yn ôl Cedron Siôn, mae ei neges yr un mor berthnasol heddiw.

“Roedd o’n rywbeth reit ddirdynnol cael gwneud araith Sieiloc achos mae o’n frawychus o gyfoes, gwaetha’r modd, yn ein hoes ni heddiw, jyst o edrych yn ôl ar y digwyddiadau ychydig wythnosau’n ôl yn Charlottesville yn America, y Neo-Natsis yn gorymdeithio ac yn gwaeddu ‘Jews will not replace us’ a ballu.

“Mae o’n frawychus o gyfoes o gofio’i fod o wedi’i sgrifennu yn y bymthegfed ganrif a bod o dal yn digwydd heddiw. Roedd y geiriau mor ingol a pherthnasol, felly.”

Fe ddiolchodd i Lois Postle hefyd, oedd wedi ymddangos yn yr olygfa ar y llwyfan.

“Dw i am ddiolch o galon iddi hi am fy helpu i ac am gamu i’r adwy i’m helpu hefo’r ddawns olaf. Ac roedd Eddie Ladd yn gefnogol iawn ac wedi rhoi o’i harbenigedd ac wedi gwrando ar yr hyn oeddwn i’n trio’i gyfleu ac wedi mynd â fi’n ychwanegol i drio creu cyfanwaith i gyfleu be’ o’n i isio’i gyfleu.”

“Teimlo mawredd” perfformio ar lwyfan

Ac yntau’n hen gyfarwydd â pherfformio o flaen y camerâu teledu, dywedodd Cedron Siôn fod y profiad o gael perfformio’n fyw ar lwyfan o flaen y camerâu yn “brofiad rhyfeddol”.

“Roeddech chi’n teimlo marwedd ac arbenigedd y peth. Roedd o’n brofiad anhygoel cael perfformio o flaen theatr fyw. A hefyd gwybod fod o’n cael ei ddarlledu ledled y wlad, roedd o’n deimlad anhygoel ac yn sicr, mae’n brofiad cwbl wahanol.  

“Un peth efo perfformiad theatr, un siot sy gennoch chi i wneud y perfformiad ar ei orau ar ei pryd, sgynnoch chi ddim ail gyfle. Oedd hynna’n ychwanegu at gynnwrf y peth, a’r adrenalin yn cario rhywun drwyddo ac edrych ymlaen at ei gyflawni fo ar ei orau.”

Mae Cedron Siôn bellach yn astudio yn y Royal Central School of Speech and Drama yn Llundain, ac fe ychwanegodd: “Y cam nesaf mewn ffordd ydi mynd yn f’ôl ac edrych ymlaen at be’ sy’ gan y cwrs i’w gynnig i mi.”

Canmol perfformiad ‘hynod deimladwy a deallus’

Yn ôl y beirniaid, roedd hi’n gystadleuaeth agos rhwng y chwech ymgeisydd, ond roedden nhw’n gytûn mai Cedron Siôn oedd yr enillydd teilwng.

Dywedodd Eirlys Britten: “Roedd hi’n dipyn o dasg dewis rhwng y chwech ond roeddem i gyd yn gytûn bod perfformiad Cedron yn hynod deimladwy a deallus. Hoffwn ddymuno’n dda iddo yn y dyfodol a’i annog i barhau i ddatblygu ei steil ei hun.”

Ychwanegodd Aled Siôn Cyfarwyddwr Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd: “Unwaith eto eleni rydym wedi gweld doniau ieuenctid Cymru ar eu gorau.

“Mae’r noson hon yn ddathliad o dalent ein pobl ifanc ac yn ddiweddglo teilwng i holl weithgareddau Eisteddfod Genedlaethol Pen-y-bont ar Ogwr, Taf ac Elái.

“Dymunwn y gorau i Cedron wrth iddo ddefnyddio’r Ysgoloriaeth i ddatblygu ei yrfa ac edrychaf ymlaen at glywed beth fydd ei hanes yn y dyfodol.”