Mae’r Ardd Fotaneg ymhlith yr amryw leoliadau sy’n cynnal digwyddiadau i nodi’r pumed Diwrnod Shwmae Sumae heddiw.

Cafodd y diwrnod cenedlaethol ei sefydlu gan fudiad Dathlu’r Gymraeg yn 2013 gyda’r nod o hybu’r syniad o ddechrau pob sgwrs gyda’r cyfarchiad “Shwmae” yn y de neu “Sumae” yn y gogledd – neu hyd yn oed “shwdi”.

Y nod yw dangos mai iaith pawb yw’r iaith Gymraeg – boed yn siaradwyr rhugl, yn ddysgwyr neu’n siaradwyr di-hyder.

Mae modd dilyn y cyfan drwy fynd i dudalen Facebook neu Twitter Shwmae Sumae.

Yr Ardd Fotaneg yn dathlu’r Gymraeg

Fel rhan o’r dathliadau eleni, mae’r Ardd Fotaneg Genedlaethol yn Sir Gâr yn cynnig mynediad am hanner pris i ddysgwyr Cymraeg heddiw.

Mae’r diwrnod yn cyd-daro â Diwrnod Ffwng Cymru, ac felly fe fydd taith arbennig yn Gymraeg rhwng 12.30-1pm yn dechrau o Fynedfa’r Gorllewin y Tŷ Gwydr Mawr.

Fe fydd Menter Cwm Gwendraeth Elli’n cynnal sesiynau Cymraeg anffurfiol yn y Tŷ Gwydr rhwng 1.30pm a 3.30pm, ac yn cynnig gwybodaeth i unrhyw un sydd eisiau mynd ati i ddysgu’r iaith.