Mohammed Mirzo gyda'i frawd ieuengaf (llun o wefan change.org)
Mae deiseb ar-lein wedi casglu dros 3,000 o enwau i gefnogi ymgyrch teulu o ffoaduriaid o Syria yng Nghaerdydd yn erbyn allgludo eu mab i Bwlgaria.

Ar ôl ffoi o ryfel cartref Syria, daeth y tad, Ali Morzo, i Gaerdydd yn 2015 lle cafodd statws ffoadur y llynedd. Mae bellach yn rhedeg y Royal Coast Cafe yng nghanol y ddinas ac yn gwirfoddoli fel cyfieithydd i blant ffoaduriaid.

Er bod ei wraig a phedwar o’i blant wedi setlo yng Nghaerdydd, roedd mab arall, Mohammed Mirzo wedi cael ei wahanu oddi wrth weddill ei deulu cyn iddyn nhw ddod i Gymru, a bu’n byw yn Bwlgaria a’r Almaen tan yn gynharach eleni.

Ar ôl pedair blynedd o fyw ar wahân, cyrhaeddodd Mohammed Gaerdydd ym mis Ebrill, ond mae’r Swyddfa Gartref yn bygwth ei allgludo i Bwlgaria ar y sail iddo deithio drwy’r wlad bedair blynedd yn ôl.

Mae’n cael ei gadw yn y ddalfa yng nghanolfan Campsfield ar gyfer mewnfudwyr yn Swydd Rhydychen.

Pryder y teulu a’u cyfeillion yw bod gan Bwlgaria yr enw o fod yn beryglus iawn i ffoaduriaid.

“Rydym yn bryderus iawn am ddiogelwch ein mab,” meddai Ali Mirzo.

“Rydym mor ddiolchgar am y teulu mae Caerdydd wedi cynnig i’m teulu a ffoaduriaid eraill o Syria. Dw i wedi gallu gwneud cyfraniad i gymdeithas fel trethdalwr a chyflogwr a gwirfoddolwr. Rydym wedi cael y math o groeso Cymreig na fyddwn ni byth yn anghofion, ac mae hyn yn gwneud inni ofni mwy fyth am yr hyn fydd yn wynebu’n mab yn Bwlgaria.”

Mae’r ddeiseb ar change.org yn galw ar yr Ysgrifennydd Cartref Amber Rudd i ryddhau Mohammed a gadael iddo aros gyda’i deulu.