Ioan Gruffudd (llun o'i wefan)
Mae’n ymddangos y gall fod yr actor Ioan Gruffudd ymhlith rhai sydd wedi dioddef ergyd i’w gyrfaoedd oherwydd diawlineb y cynhyrchydd ffilmiau Harvey Weinstein.
Yn ôl yr actores Alice Evans, gwraig Ioan Gruffudd, roedd Harvey Weinstein yn benderfynol o ddial ar y ddau ohonyn nhw ar ôl iddi hi wrthod mynd gydag ef i’w ystafell ymolchi.
Mewn erthygl yn y Daily Telegraph heddiw, dywed Alice Evans iddi gyfarfod Weinstein am y tro cyntaf yng ngŵyl ffilmiau Cannes yn 2002 – oriau ar ôl i’w darpar ŵr gael prawf sgrin ar gyfer un o ffilmiau’r cynhyrchydd.
“Roedd yn gwasgu ei hun yn fy erbyn a dweud fod arno eisiau cyffwrdd fy mronnau,” meddai.
“Nid ymgais arferol gan ddyn meddw yn trio’i lwc oedd hyn – roedd yn rhywbeth sinistr.
“Wrth imi ddianc oddi wrtho, fe ddywedodd ‘Gobeithio y bydd popeth yn gweithio allan yn iawn i’ch cariad’.
“Ches i na Ioan erioed gyfle wedyn i ymddangos yn un o ffilmiau Westein.”
Daw ei honiadau wrth i fwy a mwy o sêr Hollywood dystio bod Weinstein wedi ymddwyn yn ffiaidd tuag atyn nhw.