A
Hilary Clinton (llun o'i gwefan)
r ei hymweliad â Chymru i dderbyn gradd er anrhydedd gan Brifysgol Abertawe, mae Hillary Clinton wedi bod yn rhybuddio am beryglon Brexit a chelwyddau mewn gwleidyddiaeth.

Dywed cyn-ysgrifennydd gwladol America, sydd o dras Cymreig, fod cefnogwyr Brexit, yn union fel Donald Trump, wedi dibynnu ar anwireddau yn eu buddugoliaethau y llynedd.

“O edrych ar y bleidlais Brexit erbyn hyn, roedd yn rhagflaenydd i ryw raddau o’r hyn a ddigwyddodd i ni yn America,” meddai.

“Fe gawson ni Mr Farage yn ymgyrchu dros Mr Trump – ac mae celwydd mawr yn arf cryf iawn mewn gwleidyddiaeth.

“Gyda’r twf anferthol mewn newyddion ar-lein, mae gwefannau wedi codi sy’n effeithiol iawn ar ledaenu straeon celwyddog, mae angen inni feddwl o ddifrif beth i’w wneud – mae’n rhaid cael rhyw sail o ffaith a thystiolaeth mewn gwleidyddiaeth.”

Wrth drafod effeithiau economaidd tebygol Brexit, mae’n wfftio at y syniad o gytundeb masnach rhwng Prydain ac America.

“Rydych chi’n sôn am wneud cytundeb masnach gyda rhywun sy’n dweud nad yw’n credu mewn masnach,” meddai.

“Byddai methu â chael cytundeb gyda’r Undeb Ewropeaidd yn rhoi Prydain dan anfantais fawr iawn.”

Cafodd ei chyflwyno â gradd doethuriaeth er anrhydedd gan Brifysgol Abertawe y prynhawn yma i gydnabod ei hymrwymiad i hyrwyddo hawliau teuluoedd a phlant leded y byd.