Heledd Gwyndaf
Mae Cymdeithas yr Iaith yn galw ar gynghorau i anwybyddu canllawiau newydd gan Lywodraeth Cymru sydd i fod i fesur effaith codi tai newydd ar yr iaith Gymraeg.

Pwrpas ‘Nodyn Cyngor Technegol 20’ y Llywodraeth yw rhoi cyngor ynglŷn â sut i ddelio gyda chynllunio a’r Gymraeg, ond yn ôl y Gymdeithas nid yw’r fersiwn ddiweddaraf o’r canllawiau yn “werth dim”.

“Yn ôl y canllawiau, cyfyngedig iawn bydd yr enghreifftiau lle gallai cynghorau ofyn am asesiadau effaith ieithyddol ar ddatblygiadau,” meddai Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith, Heledd Gwyndaf.

“Ond oherwydd nad ydy’r Nodyn yn un statudol, rydym yn gofyn i gynghorau trwy Gymru i anwybyddu’r nodyn, a gofyn am asesiad effaith ieithyddol ar gyfer pob datblygiad.”

Geiriad y Nodyn

Mae Cymdeithas yr Iaith yn honni na fydd y Nodyn yn caniatáu cynnal asesiadau iaith ar brosiectau tai mewn ardaloedd penodol.

“Mae geiriad yn y Nodyn yn rhoi’r argraff na fyddai modd cynnal asesiad o dan unrhyw amgylchiadau os yw’r tir wedi ei ddosrannu o dan y Cynllun Datblygu Lleol yn barod,” meddai Heledd Gwyndaf.

“Nid yw canllaw o’r fath yn gyson â geiriad nac ysbryd y ddeddfwriaeth na safbwynt polisi’r Llywodraeth.”

Mae’r mudiad yn dweud y byddan nhw’n mynd ati yn awr i lobïo cynghorau trwy Gymru i anwybyddu Nodyn Cyngor Technegol 20.

“Hyder i awdurdodau”

Mewn ymateb i sylwadau Cymdeithas yr Iaith, dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru:

“Mae’r TAN 20 newydd yn esbonio’n glir wrth awdurdodau cynllunio lleol, datblygwyr a chymunedol sut y gall y system gynllunio gefnogi a diogelu’r iaith.

“Rhaid i bob awdurdod cynllunio yng Nghymru ystyried sut y mae’r strategaeth, polisïau a chynigion penodol ar gyfer safleoedd mewn Cynlluniau Datblygu Lleol yn cyfrannu at greu’r amodau lle gall yr iaith ffynnu.

“Dylai’r diweddariad hwn roi’r hyder i awdurdodau cynllunio lleol nodi’r ardaloedd lle mae’r iaith yn neilltuol o sensitif neu arwyddocaol ac yna i ddatblygu polisïau cynllunio i helpu’r iaith yn yr ardaloedd hynny.”