Man Engine
Fe fydd y pyped mecanyddol mwyaf erioed i gael ei adeiladu yng ngwledydd Prydain yn ymweld â Chymru.

Mewn taith o gwmpas canolfannau treftadaeth diwydiannol pwysicaf de Cymru, mi fydd y ‘Man Engine’, sef pyped mecanyddol anferth sy’n debyg i löwr, yn dod i Gymru fis Ebrill 2018 – a hynny’n arbennig ar gyfer wythnos o ddathliadau.

Fe fydd amgueddfa’r Big Pit, Gwaith Haearn Blaenafon, Gwaith Dur Glynebwy a chanol dinas Abertawe yn cael cwmni’r pyped trawiadol.

Dathliad o ddiwydiant

Mae’r daith, sydd wedi ei henwi’n ‘Man Engine Cymru: dathlu diwydiant’, wedi ei threfnu mewn cydweithrediad rhwng gwahanol sefydliadau diwylliannol yng Nghymru.

Y nod yw hyrwyddo trafodaeth genedlaethol ar dreftadaeth ddiwydiannol ein gwlad.

Yn ôl Ken Skates, Ysgrifennydd Economi Llywodraeth Cymru, mae dyfodiad y pyped yn rhoi “cyfle unigryw” i bobol “ddathlu’r gorffennol”.

“Mae’r Chwyldro Diwydiannol”, meddai, “yn rhan bwysig o hanes Cymru ac mae’n bwysicach nag erioed i gofio’r bobol a’r mannau a ddaeth â’r Chwyldro’n fyw.

“Mae’r math hwn o ddatblygiad twristiaeth arloesol yn rhoi rhesymau cryf iawn dros ymweld â chymoedd de Cymru ac mae’n nodweddiadol o’r ffordd y mae Tasglu’r Cymoedd yn gweithio gyda chymunedau i ddatblygu’r hyn a gynigir i dwristiaid yn yr ardal.”

Yn ogystal ag ymweliad y pyped anferth, fe fydd y tîm wnaeth adeiladu’r pyped yn cynnal sioeau theatr, cerddoriaeth fyw a sesiynau adrodd stori.