Llun Golwg360
Mae’r cyfarfod cyhoeddus cynta’ wedi ei gynnal i baratoi o ddifri at Eisteddfod Genedlaethol 2019 yn sir Conwy.

Ond fe glywodd tua 200 o bobol yn Llanrwst nad oedd penderfyniad wedi cael ei wneud eto ynglŷn â’r safle.

Ond mae’r enwebiadau wedi agor ar gyfer y prif swyddi lleol ar gyfer y Brifwyl, gan gynnwys Cadeirydd y Pwyllgor Gwaith.

Mae’r Eisteddfod hefyd yn apelio am wirfoddolwyr i gymryd rhan yn y trefniadau, gan gynnwys bod yn aelodau o’r pwyllgorau.

Safle – “maes o law”

Fe fydd datganiad am y safle yn cael ei wneud “maes o law”, meddai’r Eisteddfod, ac roedd y Trefnydd, Elen Ellis, yn pwysleisio bod yr ŵyl yn un i’r ardal gyfan.

Roedd yna ddadlau ynghylch safle’r Eisteddfod eleni ar ôl iddi ddod yn amlwg bod pobol leol wedi rhybuddio fod y Maes ym Modedern yn wlyb.

Fydd dim maes traddodiadol yn Eisteddfod y flwyddyn nesa’, gyda’r cyfan yn cael ei gynnal ym Mae Caerdydd, gan ddefnyddio llawer o adeiladau sydd yno eisoes.