Melanie Hughes (Llun oddi ar wefan www.misscymru.co.uk)
Mae teyrngedau wedi eu rhoi i gyn-Miss Cymru o Sir y Fflint, a fu farw’n ddisymwth ddydd Sul (Hydref 8) yn 39 0ed. Roedd hi’n wraig, yn fam i fab teirblwydd, ac yn llys-fam i ferch 16 oed.

Mae amgylchiadau marwolaeth Mel Hughes (Jones, cyn priodi) yn parhau’n ddi-eglurhad, ac mae crwner gogledd-ddwyrain Cymru wedi cael ei hysbysu.

Fe ddaeth Mel Hughes i’r brig mewn sawl pasiant harddwch pan oedd hi’n ferch ifanc, a’r rheiny’n cynnwys cystadleuaeth Miss Prydain Fawr. Fe enillodd deitl Miss Cymru yn 1997, pan oedd hi’n 19 oed.

Trodd hefyd at waith actio wedi iddi ennill y teitl, gan ymddangos mewn mân-rannau ar raglenni Coronation Street a Cold Feet.

“Roedd ganddi enaid hyfryd ac mi roedd hi’n garedig,” meddai ei gŵr Rick Hughes, ei gŵr, mewn teyrnged iddi.

“Roedd Mel yn ddynes dwymgalon ac roedd ganddi amser i bawb. Mae colli enaid mor hyfryd wedi torri ein calonnau, a fyddwn ni byth yn anghofio amdani.”