O holl genhedloedd gwledydd Prydain, y Cymry yw’r cydradd waethaf am regi, yn ôl arolwg newydd.
Mae pobol gwledydd Prydain, ar gyfartaledd, yn rhegi naw gwaith yr awr (unwaith pob 6.7 munud) ond yng Nghymru a Llundain mae pobol yn rhegi 12 gwaith pob awr (unwaith bob pum munud).
Fe gafodd 2,000 o oedolion eu holi gan y cwmni gwerthu sebon, Soap Supplier, ar gyfer yr arolwg gan ddarganfod bod dynion (10 rheg yr awr) yn rhegi’n amlach nag menywod (8 rheg yr awr).
Mae’n debyg bod traean o bobol (35%) wedi rhegi eu bos, tra bod traean yn dweud bod eu bos wedi rhegi arnyn nhw (37%).
Gweithwyr y diwydiant egni sydd yn rhegi amlaf â 65% yn cyfaddef eu bod yn rhegi yn y gweithle. Gweithwyr fferyllol sydd yn rhegi leiaf aml, a 29% yn gwneud hynny yn y gwaith.
Cyfri’r rhegfeydd
Cymru – 12 rheg yr awr
Llundain – 12 rheg yr awr
Swydd Efrog – 11 rheg yr awr
Gogledd Iwerddon – 10 rheg yr awr
Yr Alban – 9 rheg yr awr
Gogledd-orllewin Lloegr – 9 rheg yr awr
Dwyrain Lloegr – 9 rheg yr awr
Gogledd-ddwyrain Lloegr – 8 rheg yr awr
De-ddwyrain Lloegr – 8 rheg yr awr
Gorllewin canolbarth Lloegr – 8 rheg yr awr
De-orllewin Lloegr – 7 rheg yr awr
Dwyrain canolbarth Lloegr – 7 rheg yr awr