Meri Huws, Comisiynydd y Gymraeg
Mae adroddiad diweddaraf Comisiynydd y Gymraeg yn dweud bod gwasanaethau cyhoeddus “yn gwella” wrth ddarparu gwasanaeth Cymraeg. 

Dywed Meri Huws hefyd fod pobol bellach yn fwy ymwybodol o’u hawliau iaith ers i Safonau’r Gymraeg gael eu sefydlu.

Ond mae’r adroddiad ‘Hawliau’n Gwreiddio’ yn nodi bod gwaith i’w wneud i wella ansawdd gwasanaethau Cymraeg, yn enwedig ym maes technoleg a chyfryngau cymdeithasol.

Ac mae angen i sefydliadau wella’r ffordd maen nhw’n hybu a hyrwyddo eu gwasanaeth Cymraeg hefyd, meddai’r Comisiynydd.

Daw’r adroddiad ar gyfnod pan fo rôl y Comisiynydd mewn perygl, gydag argymhelliad ym mesur y Gymraeg Llywodraeth Cymru yn cynnig ei dileu gan greu Comisiwn yn ei lle.

Ffôl

Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn dweud bod yr adroddiad yn dystiolaeth y byddai cael gwared â Chomisiynydd y Gymraeg yn gam “ffôl”.

Erbyn diwedd mis Mawrth 2017, roedd 78 o sefydliadau’n gweithredu’r safonau, gan gynnwys sefydliadau cyhoeddus cenedlaethol a’r gwasanaethau brys.

Mae bellach cyfarchiad Cymraeg neu ddwyieithog i 90% o alwadau ffôn at wasanaethau cyhoeddus, o gymharu â 59% yn 2015-16. Ac mae sgiliau Cymraeg yn hanfodol ar gyfer chwarter y swyddi a gafodd eu hysbysebu, sy’n gynnydd o’r 16% oedd y llynedd.

Er mwyn dod at y casgliad fod pethau’n gwella, bu’r Comisiynydd yn holi siaradwyr Cymraeg am eu hyder yng ngwasanaethau Cymraeg gwasanaethau cyhoeddus. 

  • 76% oedd o’r farn fod gwasanaethau Cymraeg sefydliadau cyhoeddus yn gwella, a 10% yn anghytuno â hynny
  • Roedd 57% yn credu bod cynnydd yn y cyfleoedd sydd ar gael i ddefnyddio’r Gymraeg

“Adeiladu ar hyn sydd angen”

“Mae’n galonogol iawn gweld bod ymdrechion sefydliadau i gydymffurfio â safonau dros y deunaw mis diwethaf wedi bod yn gam pendant i’r cyfeiriad cywir o ran parchu a diwallu hawliau pobl i ddefnyddio’r Gymraeg,” meddai Meri Huws, Comisiynydd y Gymraeg.

“Mae nifer cynyddol yn cyrraedd y safon, a chydweithio da yn digwydd rhyngom ni a’r sefydliadau. Adeiladu ar hyn sydd ei angen nawr, fel bod cynnig gwasanaeth Cymraeg yn y ‘norm’ ym mhob sefydliad.

Ond mae angen mynd ati’n syth, meddai, i sicrhau bod “y gwasanaethau sydd ar gael trwy gyfrwng y Gymraeg yn hawdd i’w defnyddio ac yn amlwg i’r cyhoedd.

“Byddwn yn mynd ati nawr i gynnal cyfres o weithdai dros gyfnod yr hydref i drafod sut y gall sefydliadau hyrwyddo eu gwasanaethau Cymraeg yn effeithiol a rhoi cynnig rhagweithiol i’w cwsmeriaid.”