Y penddelw yng Nghapel Coffa, Dolanog
Mae’r Ysgrifennydd sy’n gyfrifol am ddiwylliant yng Nghymru yn dweud ei fod yn barod i sicrhau bod gan Gymru ei cherflun benywaidd cyntaf – a hynny i’r emynyddes, Ann Griffiths.

Fe ddaw hyn wrth i Ken Skates, Ysgrifennydd dros yr Economi a Seilwaith, ateb cwestiwn Rhun ap Iorwerth o Blaid Cymru ar lawr Siambr y Senedd ar gynlluniau Llywodraeth Cymru i nodi 300 mlwyddiant geni William Williams Pantycelyn eleni.

Cafodd ddeiseb yn galw am fwy o sylw i’r emynydd ei lofnodi gan 1,114 o bobol, oedd yn nodi y bu digwyddiadau diweddar i gofio ffigurau blaenllaw eraill yng Nghymru fel Roald Dahl a Dylan Thomas, oedd wedi’u hariannu gan y Llywodraeth.

Hyd yn hyn, dim ond digwyddiad yn y Senedd wedi’i drefnu gan y Llyfrgell Genedlaethol, sydd wedi’i bennu ar gyfer cofio’r emynydd.

“Tristáu” o ddiffyg cynigion

Dywedodd Ken Skates mai sefydliadau eraill a drefnodd y digwyddiadau i gofio Roald Dahl a Dylan Thomas a’i fod wedi’i “dristáu” gan y ffaith nad oes yr un sefydliad wedi mynd at y Llywodraeth gyda chynlluniau i nodi 300 mlwyddiant geni William Williams Pantycelyn.

Llenyddiaeth Cymru oedd yn bennaf gyfrifol am drefnu cofio’r awdur Roald Dahl, a gafodd ŵyl yng nghanol Caerdydd a’r bardd Dylan Thomas, lle bu blwyddyn lawn o wahanol ddigwyddiadau.

Yn y ddadl, fe awgrymodd Darren Millar o’r Ceidwadwyr Cymreig, y dylai’r Llywodraeth godi cerflun i William Williams Pantycelyn ac Ann Griffiths ochr yn ochr ym Mae Caerdydd.

“Dw i’n meddwl y byddai cerflun i’r ddeuawd ryfeddol, sy’n ysbrydoliaeth, hyd yn oed heddiw, yn deyrngedau addas i’r ddau,” meddai.

“Ac wrth gwrs, yn y 300 mlwyddiant, dw i ddim yn gallu meddwl am ffordd well o nodi’r achlysur arbennig hwn.”

Cerflun yn syniad “ffantastig”

Wrth ateb, dywedodd Ken Skates, “Bydden i’n cytuno’n frwd gyda’r Aelod. Byddai’n ffantastig cael cerflun o Ann Griffiths.

“Efallai fy mod i’n anghywir, efallai y bydd Aelodau am fy nghywiro, ond dw i ddim yn ymwybodol o unrhyw gerflun ar gyfer menyw yng Nghymru, unrhyw le yn y wlad, ac mae hynny’n rhywbeth y dylwn fod yn edifar iawn ohono.

“Byddwn i’n annog yr Aelod i siarad â fy swyddogion – fe wnaf i ei hwyluso. Yr hyn sy’n hanfodol yw bod gennym ni bartner a allai ddelifro hyn, ond bydden i’n fwy na barod i ystyried ariannu cynnig o’r fath drwy’r un gronfa a helpodd i ddathlu Dylan Thomas a Roald Dahl.”