Mae teitlau’r cyfrolau sydd wedi cyrraedd rhestr fer gwobr Llyfr y Flwyddyn 2017 bellach wedi’u cyhoeddi.

Mae’r cyfrolau yn weithiau gafodd eu cyhoeddi yn ystod 2016, ac mi fydd prif enillydd yr holl gategorïau yn y Gymraeg a’r Saesneg yn ennill gwobr o £3,000.

Mi fydd enillydd pob categori hefyd yn ennill £1,000 yr un, ynghyd â thlws gan yr artist Angharad Pearce Jones.

Mi fydd yr enillwyr yn cael eu cyhoeddi ymhen mis mewn seremoni yn y Tramshed, Caerdydd nos Lun (Tachwedd 13).

Y cyfrolau Cymraeg…

Ar restr fer y wobr farddoniaeth Gymraeg mae – Bylchau gan Aneirin Karadog; Chwilio am Dân gan Elis Dafydd a Llinynnau gan Aled Lewis Evans.

Yn ymgeisio am y wobr ffuglen Gymraeg mae – Y Gwreiddyn gan Caryl Lewis; Ymbelydredd gan Guto Dafydd ac Iddew gan Dyfed Edwards.

Ac o ran y wobr ffeithiol greadigol Gymraeg mae – Gwenallt gan Alan Llwyd; Optimist Absoliwt gan Menna Elfyn a Cofio Dic gan Idris Reynolds.

Esboniodd Catrin Beard, ar ran ei chyd-feirniaid Mari George ac Eirian James, fod y categori ffuglen yn “amrywiol iawn, gyda dwy nofel heriol ac arloesol  ac un fwy traddodiadol ei naws ond sy’n feistrolgar yn ei defnydd o ffurf y stori fer.”

“Dau fardd profiadol a llais ifanc newydd sydd yn Rhestr Fer categori Barddoniaeth,” ychwanegodd.

Ac o ran y categori ffeithiol greadigol – “er bod nifer fawr o gyfrolau safonol ar nifer o bynciau gwahanol, y bywgraffiadau ddaeth i’r brig,” meddai wedyn.

Y cyfrolau Saesneg…

Mi benderfynodd y beirniaid Saesneg, Tyler Keevil, Dimitra Fimi a Jonathan Edwards, ar y canlynol i gyrraedd y rhestr fer:

  • Barddoniaeth – What Possessed Me gan John Freeman; The Other City gan Rhiannon Hooson a Psalmody gan Maria Apichella.
  • Ffuglen – Pigeon gan Alys Conran; Cove gan Cynan Jones a Ritual, 1969 gan Jo Mazelis.
  • Ffeithiol Greadigol  – The Tradition gan Peter Lord, Jumpin Jack Flash gan Keiron Pim a The Black Prince of Florence gan Catherine Fletcher.

Mi fydd modd pleidleisio am enillydd gwobr ‘Barn y Bobol’ ar wefan golwg360.