Llun: PA
Mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi gwerth £244 miliwn o grantiau i fusnesau dros y chwe blynedd ddiwethaf – a hynny wedi iddyn nhw roi addeiwd i ddod â’r taliadau i ben yn 2010.

Ar y pryd, dywedodd y Llywodraeth y byddai’n rhaid i’r sector breifat ad-dalu unrhyw fuddsoddiadau ganddyn nhw yn y dyfodol.

Ond, ers 2010 mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi cyfanswm o £320miliwn o fuddsoddiadau – gan gynnwys grantiau a benthyciadau – i fusnesau preifat.

O’r £320miliwn a gafodd ei fuddsoddi, dim ond £76 miliwn (24%) sydd yn ad-daladwy a dim ond £7miliwn (2%) sydd wedi cael ei dalu yn ôl.

Mae Llywodraeth Cymru, yn dweud eu bod wedi parhau i ddyfarnu’r grantiau er mwyn “mynd i’r afael â methiant y farchnad” yn sgil y dirwasgiad economaidd.

“Methiant y farchnad”

“Yn ystod y dirwasgiad diwethaf mi roedd hyder busnesau ar ei lefel isaf ers cyfnod hir,” meddai llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru.

“Fel Llywodraeth gyfrifol sydd wedi ymrwymo i hybu’r economi, gwnaethom benderfynu weithredu’n bositif er mwyn mynd i’r afael â methiant y farchnad.”

“Rydym yn edrych ar dystiolaeth cyn penderfynu os ydy grant neu fenthyciad yn cynnig y gwerth gorau am arian ar gyfer economi Cymru.”