Mae nifer y troseddau casineb yn targedu mannau addoli Mwslimiaid ledled y Deyrnas Unedig wedi mwy na dyblu mewn cyfnod o flwyddyn.

Yn ôl cais rhyddid gwybodaeth gan Asiantaeth y Wasg (PA), mi gafodd 110 o droseddau casineb ar fosgiau eu cofnodi gan heddluoedd gwledydd Prydain rhwng mis Mawrth a Gorffennaf eleni.

Roedd y ffigwr wedi mwy na dyblu o gymharu â 47 yn ystod yr un cyfnod yn 2016.

Mae’r troseddau eraill yn cynnwys fandaliaeth, bygythiadau ac aflonyddu.

Heddluoedd Cymru…

O ran lluoedd heddlu Cymru roedd Heddlu Gogledd Cymru a Heddlu De Cymru wedi gweld dau drosedd yr un yn fwy yn 2017 o gymharu ag un yn unig yn 2016.

Roedd Heddlu Dyfed Powys wedi cofnodi un trosedd casineb o gymharu â sero y llynedd, a Heddlu Gwent heb gofnodi’r un drosedd.

Heddlu’r Met yn Llundain welodd y nifer fwyaf o droseddau casineb yn y Deyrnas Unedig gyda 17 yn 2017 o gymharu ag wyth y llynedd.

“Mae unrhyw fath o droseddau casineb yn  gwbl annerbyniol ac mae gan y Deyrnas Unedig rai o’r cyfreithiau cryfaf yn y byd i fynd i’r afael â nhw,” meddai llefarydd ar ran y Swyddfa Gartref.