Fe wnaeth Angharad Mair ganmol safon gwaith teledu a ffilm yr enillwyr a’r enwebeion wrth siarad â golwg360 ar ddiwedd seremoni wobrwyo fawreddog BAFTA Cymru yn Neuadd Dewi Sant nos Sul.

Aeth y Wobr Actor i Jack Parry Jones am Moon Dogs, a’r Wobr Actores i Kimberley Nixon ar gyfer Ordinary Lies.

Roedd gwobrau hefyd i Owen Sheers (Awdur Aberfan: The Green Hollow), Huw Edwards (Cyflwynydd Aberfan – The Fight for Justice) ac Euros Lyn (Cyfarwyddwr Ffuglen Y Llyfrgell / The Library Suicides).

Abi Morgan enillodd Wobr Siân Phillips am ei chyfraniad i fyd ffilm a theledu, ac enillodd John Rhys Davies Wobr Cyfraniad Eithriadol, ac yntau wedi ymddangos mewn rhai o ffilmiau mwya’r byd, gan gynnwys Lord of the Rings ac Indiana Jones.

‘Dangos llwyddiannau Cymru’

Dywedodd Angharad Mair wrth golwg360: “Mae wedi bod yn noson lwyddiannus, a dw i’n meddwl bod hi’n noson wych hefyd, achos beth y’n ni’n gwneud fan hyn yw dangos llwyddiannau Cymru ym myd ffilm a theledu.

“A dw i hefyd yn meddwl beth mae’n dangos yw fod y gwaith Cymraeg gystal â’r gwaith Saesneg. Ry’n ni’n clywed shwd gymaint ambwyti bod llai o arian a llai o gyllideb, sy’n wir, ond ar y llaw arall, mae safon y gwaith mor aruthrol o uchel.

“Mae’n gwneud rhywun yn browd iawn o fod yn eistedd yno a gwylio’r enwebeion a’r gwaith sydd wedi dod i’r brig ac wrth gwrs, wedyn canmol yr enillwyr.

“Mae’n noson sy’n golygu tipyn ac yn noson y gallwn ni fod yn browd ohoni, fel Cymry, ein bod ni’n gwaedu dipyn bach yn uwch nag ydyn ni’n gwneud ambell waith, dw i’n meddwl, am ein llwyddiannau ni.”

Cymraeg a Saesneg “nesa’ at ei gilydd”

Yn ôl Angharad Mair, mae’n bwysig fod y noson wobrwyo’n gosod gweithiau Cymraeg a Saesneg ar yr un lefel nesaf at ei gilydd.

“Mae’n wych o beth pan y’ch chi’n gweld gwaith yn y Gymraeg yn dod i’r brig – mae’n wych i fi, ta beth. Mae hynny mor bwysig.

Am y tro cyntaf eleni, cafodd y gwobrau eu hymestyn i wobrwyo Cymry sy’n gweithio y tu allan i Gymru – a doedd dim rhaid bod y gweithiau’n ymwneud â Chymru’n benodol.

Ychwanegodd Angharad Mair: “Am y tro cyntaf eleni, beth y’n ni’n dweud yw bo ni’n gwobrwyo Cymry ble bynnag maen nhw. Felly does dim angen bod yr unigolion hynny wedi gwneud y gwaith yng Nghymru, ond os y’n nhw’n Gymry, mae angen i ni fan hyn yn BAFTA Cymru sicrhau bod ’na seremoni iddyn nhw.

“Felly mae’n bwysig bo ni’n gwneud hynny fel bod pobol yn teimlo’n browd o’u hunaniaeth, a bo nhw’n gallu mynd bant i ble bynnag dros y byd, a gwybod y bydd Cymru, eu gwlad nhw, yn fodlon eu gwobrwyo nhw hefyd.”

Enillwyr Gwobrau’r Academi Brydeinig yng Nghymru 2017

RHAGLEN ADLONIANT a noddwyd gan Sugar Creative
Taith Bryn Terfel – Gwlad y Gân (Boom Cymru/Harlequin Media)

RHAGLEN BLANT a noddwyd gan BID Caerdydd
Deian a Loli (Cwmni Da)

FFOTOGRAFFIAETH: FFEITHIOL a noddwyd gan Genero
Baz Irvine ar gyfer The Aberfan Young Wives Club (Shiver Cymru)

GOLYGU a noddwyd gan Gorilla
Will Oswald ar gyfer Sherlock (Hartswood Films)

CYFRES FFEITHIOL a noddwyd gan Villa Maria
The Greatest Gift (BBC Wales)

EFFEITHIAU ARBENNIG A GWELEDOL a noddwyd gan Brifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant
The Lighthouse (Dogs of Annwn)

DRAMA DELEDU a noddwyd gan Media Access Solutions
Aberfan: The Green Hollow (BBC Cymru Wales mewn cysylltiad â VOX Pictures)

GÊM a noddwyd gan Games Design a Phrifysgol Glyndŵr
Creature Battle Lab (Dojo Arcade)

RHAGLEN DDOGFEN UNIGOL a noddwyd gan Brifysgol Aberystwyth
Aberfan – The Fight for Justice (Cynyrchiadau Alpha Productions)

AWDUR a noddwyd gan The Social Club, Agency
Owen Sheers ar gyfer Aberfan: The Green Hollow (BBC Cymru Wales mewn cysylltiad â VOX Pictures)

SAIN a noddwyd gan AB Acoustics
Y Tîm Cynhyrchu ar gyfer Damilola, Our Loved Boy (Minnow Films)

CERDDORIAETH WREIDDIOL a noddwyd gan Lexon Printing
Benjamin Talbott a Victoria Ashfield ar gyfer Galesa (Joio)

ACTORES a noddwyd gan Iceland
Kimberley Nixon ar gyfer Ordinary Lies

FFILM FER a noddwyd gan Brifysgol De Cymru
This Far Up (Lunatica Limited)

CYFARWYDDWR: FFUGLEN a noddwyd gan Champagne Taittinger
Euros Lyn ar gyfer Y Llyfrgell / The Library Suicides (Ffilm Ffolyn Cyf)

GWOBR SIÂN PHILLIPS a noddwyd gan Pinewood
Abi Morgan

CYFARWYDDWR: FFEITHIOL a noddwyd gan Capital Law
Marc Evans ar gyfer The Aberfan Young Wives Club (Shiver Cymru)

GWOBR TORRI TRWODD, a noddwyd gan Goleg Caerdydd a’r Fro
Jenna Robbins ar gyfer Aberfan: The Green Hollow (BBC Cymru Wales mewn cysylltiad â VOX Pictures)

NEWYDDION A MATERION CYFOES a noddwyd gan Working Word
Michael Sheen: The Fight for my Steel Town (BBC Cymru Wales)

DARLLEDIAD BYW
BBC Young Musician 2016 Grand Final (BBC Cymru Wales)

CYFLWYNYDD a noddwyd gan Deloitte
Huw Edwards ar gyfer Aberfan – The Fight for Justice (Cynyrchiadau Alpha Productions)

COLUR A GWALLT, a noddwyd gan Ken Picton Salon
Claire Pritchard Jones ar gyfer Lady Chatterley’s Lover (Hartswood Films / Serena Cullen Productions)

DYLUNIO CYNHYRCHIAD a noddwyd gan DRESD
Catrin Meredydd ar gyfer Damilola, Our Loved Boy (Minnow Films)

DYLUNIO GWISGOEDD a noddwyd gan Bluestone
Sarah Arthur ar gyfer Lady Chatterley’s Lover (Hartswood Films/Serena Cullen Prods)

ACTOR a noddwyd gan Audi

Jack Parry Jones ar gyfer Moon Dogs (Up Helly Aa Films)

FFOTOGRAFFIAETH A GOLEUO: FFUGLEN a noddwyd gan ELP
Richard Stoddard ar gyfer Yr Ymadawiad (Severn Screen)

FFILM NODWEDD / DELEDU a noddwyd gan Curzon
Ellen (Touchpaper Television)

GWOBR CYFRANIAD EITHRIADOL I FFILM A THELEDU a noddwyd gan Sony
John Rhys Davies