Ar drothwy Diwrnod Iechyd Meddwl y Byd ddydd Mawrth, mae pennaeth y wasg cwmni Airbus, sydd wedi’i leoli ym Mrychdyn, wedi bod yn trafod ei iselder mewn blog arbennig ar wefan Linkedin.

Fe ddechreua Robert Gage yr erthygl drwy ddatgan: “Rob yw f’enw i – dw i’n gweithio mewn cysylltiadau cyhoeddus, ac mae gen i iselder.”

Dywed fod y datganiad yn “swnio fel cyfaddefiad” ac yn “gyfaddefiad o ryw gyfrinach ofnadwy”, cyn ychwanegu “na ddylai fod y naill na’r llall”.

Fe fu Robert Gage yn dioddef o iselder “ers blynyddoedd”, meddai, ond mae’n egluro nad yw’n ddifrifol “nid nad yw’n teimlo felly weithiau”.

Dywed fod “synnwyr digrifwch yn hanfodol, oherwydd mae’n bwysig chwerthin yn rheolaidd”.

Diwrnod Iechyd Meddwl y Byd

Yn ôl ymchwil gan CIPR a PRCA ar drothwy Diwrnod Iechyd Meddwl y Byd, mae traean o bobol sy’n gweithio ym maes cysylltiadau cyhoeddus yn dioddef o salwch meddwl o ryw fath.

Ond yn ôl Robert Gage, mae trafod iechyd meddwl o fewn y maes “yn dal yn cael ei ystyried yn wendid”.

Dywed nad yw pobol yn barod i drafod eu salwch meddwl oni bai eu bod yn cael aros yn anhysbys.

“Yn wir, roedd rhaid i fi feddwl yn ofalus cyn postio hwn. A fydden nhw’n meddwl ’mod i o ‘nghof? Mae’r ymadrodd “salwch meddwl” ynddo’i hun yn cario stigma enfawr – os oes rhywbeth a fyddai’n elwa o gael ei ail-frandio, iechyd meddwl yw hwnnw.”

Eglura fod gan gyflogwyr ddyletswydd i warchod lles eu staff, a bod hynny’n cynnwys eu hiechyd meddwl ac nad yw unrhyw gyflogwr sy’n anwybyddu’r ddyletswydd honno’n “werth ymgeisio am swydd gyda nhw”.

Mae’n dweud bod ei gyflogwr yntau’n “deall” ei sefyllfa, ond mae’n cyfaddef ei fod e wedi gweithio i ambell gwmni sy’n ystyried iechyd meddwl yn “fater o berfformiad”.

“Byddai pobol yn diflannu i ofalu am eu gerddi a byth yn dychwelyd, oherwydd bod cau allan yn haws nag adnabod achosion creiddiol y broblem ac ymdrin â hi.”

Ychwanega y gall gardd “fod yn lle oer, yn enwedig yn ystod y gaeaf”.

Trafod

Er ei fod yn annog cyflogwyr i drafod iechyd meddwl eu staff, mae’n dweud nad yw hyd y drafodaeth “yn argoeli’n dda”.

“Mae’n dda cael trafod ac mae’n wych ei bod yn cael ei chydnabod fel problem strategol, ond mae gweithredu’n llawer gwell.”

Galw am weithredu

Wrth drafod yr hyn y gellir ei wneud i ddatrys y sefyllfa, dywed Robert Gage: “Rydym yn disgwyl i ymarferwyr ddilyn cod ymddygiad ar gyfer moesau, ond a yw ymwybyddiaeth a hyfforddiant iechyd meddwl yn rhan o hynny? Os nad yw, fe ddylai fod.”

Eglura bod “gormod o bobol wedi cael eu colli i feysydd eraill oherwydd diwylliant o ofn”, ac “nad yw canllawiau arfer dda yn ddigon”.

“Mae angen i ni hybu modelau o arfer dda a thynnu sylw at y troseddwyr gwaethaf.

“Rheoli newid yw ein busnes ni – gadewch i ni weithredu ar hwn.”