Mae Ysgrifennydd yr Economi, Ken Skates wedi cyhoeddi y bydd Llywodraeth Cymru’n lansio ymgynghoriad yr wythnos nesaf er mwyn hybu’r defnydd o’r bws fel dull o deithio ar gyfer pobol ifanc 16-24 oed. 

Bydd yr ymgynghoriad yn gofyn am farn pobol ifanc, grwpiau, mudiadau a chyrff o bob rhan o Gymru, ac yn dod i ben fis Ionawr y flwyddyn nesaf.

Wrth lansio’r ymgynghoriad, dywedodd Ken Skates: “Mae’n hanfodol bwysig bod y rhieni fydd yn elwa ar gynllun teithio rhatach yn ganolog i unrhyw benderfyniad amdano.

“Pan gyhoeddon ni ym mis Chwefror y byddai’r cynllun ‘Fy Ngherdyn Teithio’ yn parhau, dywedais yn glir y byddem yn ymgynghori’n helaeth ynghych beth ddylai cynllun o’r fath ei gynnig, ac mae’n bleser gen i gyhoeddi ein bod am lansio’r ymgynghoriad ddydd Mawrth.

“Rwyf wedi bod yn arbennig o awyddus i weld faint o alw sydd i godi oed y cynllun teithio i 24 oed, er mwyn i ni allu helpu mwy o bobol ifanc i fanteisio ar y bws i deithio yng Nghymru.” 

Ychwanegodd y byddai cynllun newydd yn cael ei lansio fis Ebrill y flwyddyn nesaf.

Bydd manylion yr ymgynghoriad yn cael eu cyhoeddi’n llawn ddydd Mawrth.

Addewid gan y Ceidwadwyr

Daw’r newyddion am yr ymgynghoriad wrth i’r Ceidwadwyr Cymreig addo cynllun teithio rhad ac am ddim i bobol 16-24 oed pe baen nhw’n dod i rym ym Mae Caerdydd.

Ac maen nhw wedi galw ar Lywodraeth Cymru i fabwysiadu’r polisi.

Yn ôl eu cynllun, byddai gan bobol 16-24 oed yr hawl i gofrestru am gerdyn teithio rhad ac am ddim ar y bws, ac i dorri traean oddi ar gostau teithio ar drenau.

Dywed y Ceidwadwyr Cymreig fod y pecyn yn “gynnig cyffrous i bobol ifanc” ac y bydd yn gymorth i amddiffyn yr amgylchedd.

Dywedodd llefarydd economi’r blaid, Russell George: “Rydym wedi ymrwymo i adeiladu economi gryfach a chymdeithas decach, ac rydym yn credu y dylai pobol ifanc elwa ar yr un gostyngiadau teithio ag sy’n cael eu cynnig i bobol dros 60 oed yng Nghymru.

“Pobol ifanc sy’n dueddol o fod â’r cyflogau isaf a’r premiwm uchaf ar yswiriant car. A thra bod eraill yn cael teithio am ddim, mae pobol ifanc yn rhy aml yn cael eu taro yn eu pocedi – maen nhw’n haeddu cymorth ychwanegol.”

Mae’r Conffederasiwn Cludiant i Deithwyr wedi croesawu cynllun y Ceidwadwyr Cymreig.