Ar drothwy rali yng Nghaerdydd heddiw yn galw am 10 ysgol gynradd Gymraeg ychwanegol i’r brifddinas, mae’r Cyngor wedi amddiffyn ei record ar addysg Gymraeg.

Dywedodd yr Aelod Cabinet sy’n gyfrifol am Addysg yn y ddinas, Sarah Merry, fod y Cyngor yn ymrwymedig i gynyddu nifer yr ysgolion Cymraeg eu hiaith.

“Mae ein penderfyniad i ehangu darpariaeth Gymraeg a dewis i rieni yng Nghaerdydd y tu hwnt i bob amheuaeth,” meddai.

“Ers 2012, mae’r Cyngor wedi creu ysgol uwchradd Gymraeg newydd, ysgol gynradd Gymraeg newydd, ac wedi ehangu pedair ysgol gynradd Gymraeg arall yn y ddinas.

“Rydym ar hyn o bryd yn adeiladu tair ysgol gynradd Gymraeg – Ysgol Hamadryad, Ysgol Glan Morfa ac Ysgol Glan Ceubal.

Ychwanegodd y cynghorydd fod yr awdurdod yn “bodloni’r galw cyfredol”, er gwaethaf pryderon rhieni ac ymgyrchwyr fod plant yn cael eu rhwystro rhag cael addysg Gymraeg am fod y rhestrau aros mor hir.

“Esgeuluso” addysg Gymraeg mewn ardaloedd tlawd

Yng Nghaerau yng ngorllewin Caerdydd, mae rhieni lleol yn ymgyrchu tros fwy o ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg mewn ardal lle mae un ysgol gynradd Gymraeg sydd wedi tyfu’n sylweddol dros y blynyddoedd diwethaf.

Yn 2012, roedd gan Ysgol Gymraeg Nant Caerau 86 o ddisgyblion ond bellach, mae 240 o blant yn cael addysg yno, a hynny ar safle sydd yn llai na hanner y maint y dylai fod, yn ôl canllawiau Llywodraeth Cymru.

Ac er bod yr ysgol wedi treblu, bron iawn, dros gyfnod o bum mlynedd, maen nhw wedi gorfod gwrthod 83 o blant yn y cyfnod hwnnw.

Y llynedd, bu’n rhaid siomi 25 o blant oedd am gael addysg Gymraeg, a 12 arall eleni.

Yn ôl Cyfarwyddwr Datblygu Rhieni dros Addysg Gymraeg, mae “addysg Gymraeg yng Nghaerau a Threlái wedi ei esgeuluso” gan Gyngor Caerdydd.

“Mae’r ffaith bod mwy a mwy o blant yn cael eu gwrthod pob blwyddyn yn cael adwaith negyddol,” meddai Ceri McEvoy.

“Tydi rhieni ddim yn mynd i geisio am le [yn yr ysgol Gymraeg]. Pam ymgeisio am le pan rydach chi’n gwybod nad oes gennych chi obaith caneri o gael fewn?”

Rali

Bydd y rali tros gael deg ysgol Gymraeg newydd yng Nghaerdydd yn cael ei chynnal am 11 heddiw (dydd Sadwrn) ger Capel y Tabernacl, Yr Ais.

GWRTHOD ADDYSG GYMRAEG I BLANT TLAWD CAERDYDD – mwy yn rhifyn yr wythnos o gylchgrawn Golwg.