Sharon Morgan (Llun cyhoeddusrwydd)
Mae’n “warth” bod Theatr Sherman yng Nghaerdydd ddim yn darparu adnodd datblygu sgriptiau yn y Gymraeg bellach.

Dyna yw barn bersonol Aelod Pwyllgor Equity Cymru, yr actores Sharon Morgan, sydd am weld yr adnodd “hollbwysig” yn cael ei ail gyflwyno i’r theatr.

Dechreuodd y theatr gynnig y ddarpariaeth pan chwalodd cwmni Sgript Cymru, a dim ond yn ddiweddar mae’r gymuned theatrig wedi sylweddoli ei fod wedi dod i ben.  

“Mae wedi diflannu – mewn ffordd, heb yn wybod i ni,” meddai Sharon Morgan wrth golwg360.

“Yn sydyn rydym ni’r gymuned theatrig wedi sylweddoli ein bod ni wedi colli adnodd hollbwysig i ddweud y gwir.

“Mae’n warth o beth bod y sefyllfa wedi dirywio i’r fath raddau. Mae’n hanfodol i unrhyw genedl i gael adnodd lle mae datblygu sgriptiau newydd a datblygu ysgrifenwyr yn digwydd.

“Ac mae wedi dod â’r ffocws ar gwmnïau Cymraeg a be maen nhw’n gwneud dros yr iaith Gymraeg. Be sy’n bwysig yw bod hyn ddim yn cael ei weld fel ticio bocs – mae’n gwbl hanfodol.”

Y Gymraeg

Symptom o broblem ehangach yw hyn yn ôl Sharon Morgan ac mae’n tynnu sylw at ddiffyg staff Cymraeg yn Theatr Sherman a diffyg Cymry ym “mhrif sefydliadau” y wlad.

“Y broblem sydd gyda ni, dw i’n meddwl, o ran y celfyddydau yn gyffredinol yng Nghymru, yw bod ein prif sefydliadau ddim yn cael eu rhedeg  gan Gymry neu bobol sydd yn ymwybodol o’n hanes a’n diwylliant ni – ac felly [does] dim buddsoddi yn ein dyfodol ni fel cenedl,” meddai.

Mae’r actores yn honni bod “neb” yn adeilad y theatr yn siarad Cymraeg ar wahân i wirfoddolwyr y swyddfa docynnau. 

Mae Sharon Morgan hefyd yn dweud nad oedd y Gymraeg yn “hanfodol” ar hysbyseb swydd Is-Gyfarwyddwraig Artistig y theatr.

Mae golwg360 wedi gofyn i Theatr Sherman am ymateb.