Sian Gwenllian AC
Mae llefarydd Plaid Cymru dros y Gymraeg wedi ochri gyda Chymdeithas yr Iaith wrth feirniadu bil arfaethedig Llywodraeth Cymru ar greu miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.

Wrth siarad â golwg360, dywed yr Aelod Cynulliad Siân Gwenllian ei bod yn cytuno gyda’r mudiad iaith y dylai Gweinidog y Gymraeg, Alun Davies, ystyried dechrau eto a llunio bil arall.

Fe wnaeth Alun Davies gyhoeddi ei bapur gwyn ar Fil y Gymraeg yn ystod wythnos yr Eisteddfod Genedlaethol eleni, gan awgrymu torri swydd Comisiynydd y Gymraeg a chreu Comisiwn yn ei lle.

Fe wnaeth hyn ennyn ymateb chwyrn, gyda Chymdeithas yr Iaith yn rhoi pwysau ar y Gweinidog i roi’r bil, sydd dal yn destun ymgynghoriad, yn y bin.

“Dw i’n credu mai sgwarnog ydi Bil y Gymraeg er mwyn tynnu sylw oddi ar wendidau’r strategaeth iaith [i gyrraedd miliwn o siaradwyr] a’i ddiffyg targedu, diffyg meini prawf, diffyg amserlen,” meddai Siân Gwenllian.

“Dw i’n tueddu i gytuno efo be’ mae Cymdeithas yn dweud, buasai’n well dechrau eto efo bil sydd wir yn mynd i gryfhau a’r ffordd buasai cryfhau yn digwydd bydda’ gwneud yn hollol glir bod y sector preifat yn dod i mewn yn rhan ganolog o’r gwaith.

“Mae unrhyw beth sydd ddim yn symud ni at hynna’… ydi o’n werth ei wneud? Dyna ydi’r cwestiwn,” meddai wedyn.

“Ydi hi’n werth bwrw ymlaen efo papur gwyn sy’n gwrthddweud ei hun mewn gwahanol lefydd, sydd wedi tynnu nyth cacwn yn barod, ydi hynna’n beth gwerth chweil ei wneud?”

Safonau ‘gwirfoddol’ i’r sector preifat

Yn y Papur Gwyn, mae Brexit yn cael ei ddefnyddio fel esgus dros beidio â chyflwyno safonau iaith i’r sector preifat yn rhy fuan a bod angen gwneud hynny ar sail wirfoddol i ddechrau.

“Nid ydym yn cynnig y dylai Llywodraeth Cymru osod Safonau’n fuan ar gyrff nad ydynt yn dod o fewn system y Safonau ar hyn o bryd,” meddai’r ddogfen.

“O ystyried yr ansicrwydd economaidd presennol yn sgil y penderfyniad i adael yr UE, byddai yna risg yn sicr o roi mwy o bwysau ar gwmnïau’r sector preifat ac ar fewnfuddsoddiad.”

“Dim cefnogaeth”

Dywed Siân Gwenllian nad oes gan Alun Davies gefnogaeth bellach i barhau â Bil y Gymraeg.

“Mae’r consensws yma y mae’r Gweinidog yn trio adeiladu o gwmpas yr iaith yn cael ei danseilio achos mae Bil y Gymraeg arfaethedig wedi golygu ymateb chwyrn gan siaradwyr Cymraeg o bob cwr o’r iaith – mudiadau iaith ac arbenigwyr cynllunio iaith – pawb yn cytuno y bydd Bil y Gymraeg yn gam yn ôl ac yn gwanhau yn hytrach na chryfhau.”

Wrth ymateb i bryderon Siân Gwenllian ar lawr y Siambr, dywedodd Alun Davies ei fod yn anghytuno gyda’i dadansoddiad o’r bil a bod meini prawf a thargedau yn y strategaeth yn barod.

Ymateb Alun Davies

“Rydw i’n clywed y cyhuddiadau yma ein bod ni yn gwanhau ein hawliau ni fel Cymry,” meddai Gweinidog y Gymraeg wrth golwg360. “Nid ydym ni’n gwanhau unrhyw hawliau sy’n bodoli heddiw.

“Beth rydym ni’n ei wneud yw mynd yn bellach i ymestyn y math o hawliau sydd gyda ni, ymestyn yr hawliau rydym ni’n gallu eu gweithredu, a beth rydym ni’n mynd i’w sicrhau yw ein bod ni’n gallu gweithredu’r hawliau yma.