Nick Bennett, Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru
Mae Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru yn “gwrthod yr awgrym” bod ei swyddfa wedi atal corff cyhoeddus rhag gweithredu trwy gyfrwng y Gymraeg.

Daw sylw Nick Bennett wedi i Gymdeithas yr Iaith ei gyhuddo ddydd Mercher (Hydref 4) o “atal cyrff” rhag “gweithredu’n fewnol yn uniaith Gymraeg”. Roedd y mudiad iaith yn tynnu sylw at ddyfarniad gan Nick Bennett ym Tachwedd 2015.

Bryd hynny, roedd wedi dod i’r farn fod Cyngor Cymuned Cynwyd, Sir Ddinbych, yn gosod pobol ddwyieithog “dan anfantais” trwy ddarparu dogfennau yn uniaith Gymraeg.

Sylwadau Alun Davies

Daeth sylwadau Cymdeithas yr Iaith fel ymateb i’r hyn ddywedodd Gweinidog y Gymraeg, Alun Davies yn y Senedd nos Fawrth (Hydref 3), pan awgrymodd y Gweinidog y dylasai Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus ymchwilio i gwynion am y Gymraeg yn hytrach na Chomisiynydd y Gymraeg.

Yn dilyn cais am ymateb gan golwg360, dywedodd Nick Bennett: “Petai fy swyddfa i – sy’n gwbwl annibynnol – yn defnyddio pwerau ymchwilio mewn perthynas â chwynion am y Gymraeg, byddai hyder y cyhoedd yn y broses o ddelio â chwynion yn cael ei gynnal.”

Dywedodd hefyd bod y “system bresennol yn ymddangos yn rhy fiwrocrataidd, yn gymhleth ac, ar brydiau, yn wastraffus” gan nodi bod angen “mabwysiadu arferion gorau a welir” yn Ewrop.