Mae ymchwilwyr o Brifysgol Abertawe wedi ennill gwobr am ymchwil i greu prawf diagnostig cyflymach, mwy cywir a chludadwy, a llai drud ar gyfer canser yr ofari.
Yr Athro Steven Conlan o’r Ysgol Feddygol sy’n arwain y gwaith ymchwil.
Gall y ddyfais newydd ddod o hyd i ganser yr ofari o fewn ychydig funudau, gan ddefnyddio dafnau o waed.
Mae’r dechnoleg yn wahanol i’r hyn sydd eisoes ar gael mewn ysbytai, ac mae mwy o bosibiliadau o ran monitro cleifion hyd yn oed ar ôl cael diagnosis.
Does dim angen labordy er mwyn asesu’r profion na thechnegwyr arbenigol i’w dadansoddi, ac mae hynny’n golygu y byddai costau profion yn is na’r arfer heb fod angen canoli gwasanaethau.
Fe allai’r dechnoleg hefyd gael ei defnyddio i ganfod afiechydon eraill.
“Cam pwysig”
Mae arbenigwyr o’r Ysgol Feddygol a’r Ysgol Beirianneg yn Abertawe, ynghyd ag arbenigwr o’r Labordy Nanodechnoleg Iberiaidd Cenedlaethol wedi ennill y wobr o 35,000 ero am eu gwaith.
Bydd hyn yn eu galluogi i gynnal arolwg o’r farchnad, datblygu cynllun busnes, gwirio technoleg gan arbenigwyr yn y diwydiant a sefydlu cwmni ar sail y dechnoleg.
“Bydd gwobr Hovione yn galluogi’r tîm i ddechrau ar y broses o symud ein dyfais o’r labordy at y claf.,” meddai’r Athro Steven Conlan. “Er bod tipyn o waith i’w wneud eto, dyma gam pwysig tuag at ddiagnosis gwell a chynharach i gleifion sydd â chanser yr ofari.
“Fe fu cydweithio rhwng y ddwy ganolfan Ewropeaidd yn allweddol i’r cyrhaeddiad hwn.”