Mae RSPCA Cymru wedi lansio apêl yn dilyn diflaniad wyth o gathod o wahanol gartrefi yn Abercynon yn Rhondda Cynon Taf.

Aeth cath frech o’r enw Monty ar goll o Stryd Lock ar Orffennaf 25 ac yn ôl ei berchennog, mae’n un o wyth cath sydd wedi mynd ar goll o’r ardal yn ddiweddar.

Yn ôl RSPCA Cymru, mae eu diflaniad yn “anarferol”, ac fe ddylai unrhyw un â gwybodaeth gysylltu â nhw.

Maen nhw wedi pwysleisio pwysigrwydd sicrhau bod gan gathod ficrosglodyn er mwyn dod o hyd iddyn nhw os ydyn nhw’n mynd ar goll. Yn ôl llefarydd ar ran RSPCA, mae “pryder” yn y gymuned leol.