Alun Davies, Gweinidog y Gymraeg
Mae cynigion Llywodraeth Cymru i newid deddfwriaeth iaith “yn syrthio’n ddarnau” yn ôl mudiad Cymdeithas yr Iaith Gymraeg.

Daw’r sylw yn dilyn sylwadau gan Weinidog y Gymraeg, Alun Davies, yn y Senedd nos Fawrth (Hydref 3).

Fe awgrymodd y Gweinidog y dylasai Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus ymchwilio i gwynion am y Gymraeg yn hytrach na Chomisiynydd y Gymraeg. Ond nid yw’r opsiwn hwn ym Mhapur Gwyn Bil y Gymraeg – papur cafodd ei gyhoeddi gan y gweinidog ym mis Awst eleni.

Mae’r mudiad yn dweud nad yw’r Ombwdsmon, Nick Bennett, “yn gymwys” i gymryd lle’r Comisiynydd ac yn ei gyhuddo o “atal cyrff” rhag “weithredu’n fewnol yn uniaith Gymraeg”.

“Smonach”

“Mae’n syfrdanol ac yn rhyfedd tu hwnt nad yw’r Gweinidog yn cefnogi ei gynigion ei hun – mae’r papur gwyn yn syrthio’n ddarnau,” meddai Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith, Heledd Gwyndaf. “Mae’n smonach.

“Nid yw hyn yn syndod gan nad yw’r papur yn dal dŵr, ei fod yn gwrthddweud ei hun a’i fod yn gwanhau hawliau siaradwyr Cymraeg. Rydyn ni fel Cymdeithas wedi dweud o’r dechrau mai yn y bin y mae lle’r Bil hwn, byddai’n gwneud mwy o synnwyr na gwneud polisi’n fympwyol fel hyn.”

Mae golwg360 wedi gofyn i Alun Davies a Nick Bennett am ymateb.